Elfyn Evans yn dal i arwain Pencampwriaeth y Byd ar ôl dod yn chweched yn Rali Estonia
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi cadw’i le ar frig Pencampwriaeth y Byd er iddo orffen Rali Estonia yn y chweched safle ddydd Sul.
Fe ddaeth Evans 2:01.00 tu ôl yr enillydd Sami Pajari o’r Ffindir.
Er hyn mae Evans wedi cynyddu ei flaenoriaeth ar frig y bencampwriaeth i 25 pwynt dros Takamoto Katsuta o Japan ddaeth yn safle rhif 21 yn Estonia.
Mae pum rali yn weddill o’r tymor gyda’r gyrwyr nawr yn symud i’r Ffindir ymhen pythefnos.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/2078802292128551407
Llun: X/Elfyn Evans