Eisteddfod yr Urdd: Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Enillwyr

Cyhoeddwyd ddydd Llun mai Dafydd Llŷr Hughes o Lanbedrog, Pen Llŷn yw enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Lleucu-Haf Thomas o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.

Mae Lleucu’n ennill y gystadleuaeth am yr ail flynedd yn olynol. Hi hefyd oedd enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro y llynedd. 

Dyma’r tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth i unrhyw un ennill y Fedal Gelf fwy nag unwaith.

Noddir y seremoni eleni gan Gronfa Elw Park-Jones.

Ysgoloriaeth Artist Ifanc

Mae Dafydd yn 19 oed ac yn dod o bentref Llanbedrog ym Mhen Llŷn. Yn gyn-ddisgybl Ysgol  Llanbedrog ac Ysgol Botwnnog, mae newydd gwblhau cwrs Ecoleg a Chadwraeth yng Ngholeg Reasheath, Nantwich ar ôl treulio blwyddyn yn Ngholeg Glynllifon yn astudio Coedwigaeth a Chadwraeth. Bydd yn mynd i Brifysgol Falmouth yng Nghernyw ym mis Medi i astudio ffotograffiaeth.

Rhoddir yr Ysgoloriaeth am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn oedran Bl.10 i 25 oed.

Dywedodd Dafydd: “Dechreuais dynnu lluniau yn ystod y cyfnod clo gan gychwyn gyda chamera ffôn cyn symud ymlaen i ddefnyddio camera. I ddechrau roeddwn i’n tynnu lluniau o’r golygfeydd anhygoel sydd gennym yn Llŷn – traethau Llanbedrog, Porth Neigwl a‘r anifeiliaid gwyllt sy’n byw yno.

“Rwyf wrth fy modd allan yn yr awyr agored ac mae fy niddordebau eraill fel pysgota a syrffio yn adlewyrchu hynny. Rwyf yn edrych ymlaen at gychwyn ar fy astudiaethau ym mis Medi. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Urdd am y cyfle drwy’r ysgoloriaeth i allu gwireddu fy nod o ysbrydoli pobl drwy fy ffotograffiaeth i fwynhau a pharchu byd natur.”

Beirniad y gystadleuaeth yw Diana Williams, cyn ddarlithydd o’r Adran Gelf ym Mhrifysgol Bangor a Nicola Gibson, Rheolwr Profiad Ymwelwyr yn Oriel Môn yn Llangefni.

Dywedodd y beirniaid: “I’r brig daeth ymgeisydd wnaeth ein swyno, nid yn unig efo’i bortffolio ond ei angerdd heintus a’i gariad pur tuag at ei waith. Mae’n talu teyrnged i’w fro ac yn cyflwyno delweddau hudolus. Dyma gadwraethwr brwd gydag angerdd am bioamrywiaeth a gwarchod ei gynefin. Roedd stori tu ôl i pob darn ac roedd sensitifrwydd y gwaith a’r oriau maith i gipio un ddelwedd yn syfrdanol.

"Mae gan Dafydd lwybr pwrpasol ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Mae’n feistr parod ar ei grefft sydd am fynd o nerth i nerth ac esblygu. Edrychwn ymlaen at ddilyn ei yrfa a’i ddatblygiad artistig.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Dyfed Childs o Ysgol Bro Hyddgen a Moli Prendergast o Holeg Menai, Bangor oedd yn drydydd.

Cyflwynir y tlws er cof am Owen a Manon Griffiths a rhoddir yr Ysgoloriaeth, gwerth £2,000, drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu i alluogi’r enillydd i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu yn fuddsoddiad er mwyn i’r artist buddugol ddilyn gyrfa yn y maes hwnnw.

Medal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Mae Lleucu-Haf Thomas, yn 17 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Preseli, Crymych lle mae hi yn ei blwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth yn astudio Cerdd, Drama a Chymraeg. Mae’n aelod brwd o’r Urdd, ac yn Gadeirydd Aelwyd Crymych.

Dyfernir y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg i’r cystadleuydd sydd wedi cyflwyno’r gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch yr adran gelf, dylunio a thechnoleg Bl.10 i 19 oed.

Dywedodd:Yn ferch o gefn gwlad mae’n meddwl y byd i mi gael rhannu’r grefft o drin a phlethu llafur a dangos y broses o gasglu’r cynnyrch o’r cae, i’w dorri a’i sychu, ac yna mynd ati i greu. Mae’r broses o greu a phlethu efo llafur yn rhywbeth personol iawn i fi. Rwyf yn meddwl am syniad ac yn mynd ati i gynllunio, ei ddatblygu a’i greu dros oriau di-ri. Teimlaf ei bod hi’n hanfodol bwysig i gadw’r traddodiadau hen yn fyw a hoffem ddiolch i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno’r sgil anghyffredin i mi nôl yn 2020 ac am yr holl anogaeth ac ysbrydoliaeth.”

Beirniaid y Fedal eleni yw Carys Jones, Christine Mills, Siwan Thomas, Owain Sparnon, Ellen Thorpe, Arwyn Roberts a Diana Williams.

Dywedodd y beirniaid: “Roedd y gwaith yn drawiadol, medrus a chaboledig. Dyma waith crefftus, gwreiddiol a chyfoes. Mae’r enillydd yn feistr ar ei chrefft a braf yw gweld hen grefftau traddodiadol fel hyn yn dod i’r brig.”

Rhoddir y Fedal er cof am Andrew Southall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.