Eisteddfod: Disgyblion ardal y Garreg Las yn rhyddhau cân i nodi 50 diwrnod tan y brifwyl

Disgyblion cynradd ardal y Garreg Las yn uno i lansio cân arbennig

Mae disgyblion ysgolion cynradd yn ardal Eisteddfod Garreg Las wedi dod ynghyd i ryddhau cân newydd sy’n dathlu’r hyn sy’n gwneud eu hardal nhw mor arbennig.

Bydd y gân, ‘Croeso i Fro’r Garreg Las’, yn cael ei rhyddhau ddydd Mawrth i nodi 50 diwrnod cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn yr ardal.

Fel rhan o'r prosiect, mae plant o 50 o ysgolion yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro wedi cymryd rhan.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llantwd, mewn dalgylch sy’n cwmpasu’r tair sir.

Bydd fideo yn cael ei ryddhau ochr yn ochr â'r gân, gyda'r disgyblion yn ymweld â safleoedd nodedig, gan gynnwys Aberteifi, Dinbych-y-pysgod, Tyddewi, Pentre Ifan a Drefach Felindre.

Y prifardd Ceri Wyn Jones luniodd y geiriau, gyda’r alaw gan Einir Dafydd, ac mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan Mei Gwynedd.

'Perthyn i bawb'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Tessa Hodgson, fod cydweithio "ar draws Bro'r Garreg Las" wedi bod "wrth galon" y prosiect.

“Rydym yn falch iawn o groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Lantwd yr haf hwn," meddai.

"Mae wedi bod yn bleser gweld pobl ifanc o’r tair sir yn dod at ei gilydd i greu cân arbennig sy’n dathlu’r ardal ac yn adeiladu cyffro wrth i ni edrych ymlaen at yr Eisteddfod. Mae cydweithio ar draws Bro’r Garreg Las wedi bod wrth galon y prosiect hwn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Ysgolion a’r Iaith Gymraeg: “Mae hi wedi bod yn fraint gweithio gydag ysgolion Cymraeg a Saesneg ar draws y siroedd i greu’r gân arbennig hon.

"Mae dros 500 o blant wedi cyfrannu ati, sy'n gamp anhygoel! Mae’n braf iawn gweld bod y Gymraeg a’r Eisteddfod yn perthyn i bawb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.