Efrog Newydd: Dau wedi marw ar ôl i awyren daro injan dân
Mae dau beilot wedi marw ar ôl i awyren Air Canada daro injan dân ym Maes Awyr LaGuardia yn Efrog Newydd.
Roedd yr awyren Air Canada Express CRJ-900, sy'n cael ei rhedeg gan gwmni Jazz Aviation, yn cludo 72 o deithwyr a phedwar aelod o'r criw.
Fe wnaeth yr awyren wrthdaro â'r injan dân ar gyflymder o tua 24 milltir yr awr, yn ôl gwefan Flightradar24 sy'n dilyn hediadau.
Mae lluniau a gafodd eu tynnu yn dilyn y digwyddiad yn dangos difrod sylweddol i drwyn yr awyren.
Mae Gweinyddiaeth Hedfan Ffederal yr Unol Daleithiau yn dweud fod disgwyl i'r maes awyr fod ar gau tan 14.00 amser lleol (18.00 GMT) ddydd Llun.
Dywedodd Kathryn Garcia, cyfarwyddwr gweithredol Awdurdod Porthladd Efrog Newydd a New Jersey, mewn cynhadledd newyddion yn ddiweddarach fod yr awyren yn cludo 72 o bobl a phedwar aelod o'r criw ar adeg y ddamwain, gyda dau swyddog yn yr injan dân.
Cafodd 41 o deithwyr ac aelodau'r criw eu cludo i'r ysbyty, ynghyd â'r ddau swyddog yn yr injan dân, meddai.
Ychwanegodd fod 32 o bobl bellach wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty, ond bod "anafiadau difrifol" hefyd.
"Yn anffodus, cadarnhawyd bod y ddau beilot wedi marw," meddai.
Fe aeth ymlaen i ddweud bod y ddau swyddog yn yr injan dân mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty "heb unrhyw anafiadau sy'n peryglu bywyd".
Dywedodd Bwrdd Diogelwch Trafnidiaeth Cenedlaethol yr Unol Daleithiau ei fod yn anfon tîm o arbenigwyr technegol i ymchwilio i'r digwyddiad.
Llun: Reuters