Dynion wedi defnyddio tair merch yn Y Rhyl fel 'nwyddau rhywiol'
Mae llys wedi clywed bod grŵp o ddynion yn Y Rhyl wedi camfanteisio ar dair merch yn eu harddegau a'u defnyddio fel "nwyddau rhywiol".
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod y merched wedi honni eu bod wedi cael eu camfanteisio'n rhywiol gan bedwar dyn.
Ar ddechrau'r achos ddydd Llun, dywedodd Owen Edwards KC ar ran yr erlyniad wrth y rheithgor fod dwy ferch 14 a 15 oed yn cerdded trwy'r Rhyl yn hwyr un noson yn 2022, ar ôl bod yn ysmygu canabis.
Dywedodd fod y ddwy yn "dargedau amlwg i ddynion hŷn ysglyfaethus."
Roedd Mustafa Iqbal, 43 oed, gyrrwr prydau tecawê ar sgwter trydan a deliwr cyffuriau, wedi'u gweld gan benderfynu eu bod yn "ddelfrydol ar gyfer camfanteisio rhywiol."
Dywedodd Mr Edwards eu bod wedi dechrau siarad ac wedi mynd i'w gartref, ac fe alwodd Iqbal ffrindiau i ddod yno.
Cafodd alcohol a chanabis eu rhoi i'r merched, meddai'r erlyniad.
Roedd Jaswinder Singh, 65 oed, sydd ar fudd-daliadau anabledd, mewn cysylltiad â'i ffrindiau gwrywaidd iau.
Teithio i Lundain
Trefnodd i fynd ag un ferch i Lundain, gan ddweud wrthi am esgus i'w chwaer mai hi oedd ei ofalwr 22 oed, rhag i'w chwaer ddod i'r casgliad ei fod yn rhan o "gang meithrin perthynas amhriodol Asiaidd".
Cafodd yr heddlu eu galw oherwydd pryderon gan ffrind i'r ferch a chafodd y pedwar dyn eu harestio.
Roedd y pedwar wedi gwadu unrhyw droseddau ac ni chawsant eu herlyn ar y pryd.
Dywedodd Mr Edwards wrth y llys: “Roedd Mr Iqbal yn cael ei ffordd ei hun yn rheolaidd drwy gamfanteisio ar ferched.”
Roedd yn trin y drydedd ferch, oedd yn 16 oed, yn gaeth i grac cocên ac a oedd wedi ei cham-drin yn honedig, fel “caethwas rhyw.”
Roedd gan y diffynnydd “fynediad hawdd” at gyffuriau, meddai.
“Roedd pob un o’r merched hyn yn agored i niwed, pob un yn cael ei thrin gan ddynion hŷn fel gwrthrych rhywiol, pob un yn cael cyffuriau.
“Ym mhob achos, y dyn oedd yr unigolyn a elwodd o’r berthynas.”
Ychwanegodd Mr Edwards: “Roedden nhw (y diffynyddion) yn ymddangos yn falch o’u camfanteision.”
Cyhuddiadau
Mae Iqbal, o Ffordd Trellewelyn, Y Rhyl, Ziaullah Badsha, 25 oed, o Ffordd Brighton, Y Rhyl, Mohamed Arshad, 36 oed, o Clifton Grove, Y Rhyl, a oedd yn rhedeg caffi, a Singh, o Stryd yr Afon, Y Rhyl, i gyd yn gwadu eu bod wedi cynllwynio gyda'i gilydd yn 2022 a gyda phobl eraill anhysbys, i drefnu cludo'r merched 14 a 15 oe, gyda'r bwriad o'u camfanteisio'n rhywiol.
Maen nhw yn gwadu mwy nag 20 cyhuddiad i gyd.
Mae'r honiadau yn eu herbyn yn datgan bod merched wedi cael eu gorfodi i ddarparu gwasanaethau rhywiol yn gyfnewid am ganabis a bod canabis wedi'i gyflenwi.
Mae Iqbal, Arshad a Badsha hefyd ar brawf am honiadau o dreisio.
Mae Iqbal a Sarah Gray, 53 oed, o Deras y Capel, Gronant, ger Prestatyn, yn wynebu honiadau o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis.
Mae hi wedi'i chyhuddo o ganiatáu i Iqbal ddefnyddio ei thŷ ar gyfer camfanteisio rhywiol a gwyrdroi cyfiawnder trwy olchi dillad gwely yn dilyn treisio'r ferch 16 oed, a oedd yn cynnwys defnyddio gefynnau.
Roedd yna hefyd dorri gorchymyn risg masnachu caethwasiaeth yn honedig gan Iqbal.
Mae'r achos yn parhau.
