Dynes sydd wedi dioddef camdriniaeth yn galw am fwy o gymorth i fenywod
Mae menyw sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig yn dweud bod angen mwy o gymorth i fenywod sydd yn profi camdriniaeth yng Nghymru.
Dywedodd Elan Gwen, sydd yn 20 oed ac yn dod o Bontypridd, wrth Newyddion S4C bod "pob menyw yn haeddu teimlo yn saff i allu byw eu bywyd yn saff ac yn hapus."
Fe wnaeth Elan brofi trais mewn perthynas pan oedd hi'n 15 oed.
Mae ystadegau newydd yn ddangos bod un o bob tair fenywod yng Nghymru yn profi camdriniaeth mewn perthynas.
"Mae’n rhywbeth fi wedi mynd trwyddo fy hunin, felly o hwnna mae ‘di neud fi rili credu mae angen lot mwy o gymorth a help i menywod.
"Byswn i’n hoffi gweld mwy o bethe yn cael ei ddysgu yn ysgolion, fel amdan perthnasau iachus. Achos dydw i ddim yn meddwl mae’n cael ei siarad amdano digon".
Mae Elan yn crëwr cynnwys a gyfryngau cymdeithasol, ac mae'n dweud bod cymuned o fenywod ar-lein wedi ei helpu hi i ymdopi gyda'i phrofiad o gam-driniaeth.
"Oedd lot o bobl yn dod i fi ac yn dweud bod nhw 'di bod trwyddo yr un peth. Oedd e di rili helpu fi mynd trwyddo pethe", meddai.
"Byswn i’n hoffi gweld mwy o bethau yn cael ei dysgu yn ysgolion, achos dydw i ddim yn meddwl mae’n cael ei siarad amdano ddigon.
Un mewn tair
Pob blwyddyn, mae Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro ym Mro Morgannwg yn cefnogi dros 1,000 o fenywod sydd wedi profi cam-drin domestig, trais rhywiol neu unrhyw fath o drais gan ddynion.
Mae'r elusen yn cynnal digwyddiad 'Move For Her' ar y cyd gyda The Angel Collective er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch, iachâd a rhyddid menywod.
Dywedodd Lauren, sydd yn gweithio i'r gwasanaeth, bod yr elusen yn derbyn nifer o alwadau pob dydd gan bobl sydd yn ceisio gael cymorth yn dilyn cam-drin domestig.
Yn y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth y gwasanaeth helpu dros 1,500 o fenywod yng Nghaerdydd a'r Fro.
Ond mae arian yn brin meddai Lauren, ac mae hyn yn ei wneud yn "anodd i gefnogi pawb."
Cymuned
Ar 18 Gorffenaf bydd The Angel Collective yn cynnal digwyddiad 'Move For Her' dros gyfnod o 12 awr.
Bydd y digwyddiad farathon symudiad sydd yn cynnwys 12 dosbarth ioga a Pilates i ddawns i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Cam-drin Domestig y Fro.
Dywedodd Miriam Rees, perchennog stiwdio The Angel Collective, wrth Newyddion S4C : "Dwi wedi bod yn gefnogwr mawr o'r Gwasanaethau Cam-drin domestig y Fro am tua blwyddyn a hanner, a rydw i yn hynod o angerddol dros y gwaith y mae nhw'n ei wneud."
Dywedodd ei bod yn bwysig iddi i helpu menywod sydd yn ceisio ymdopi gyda cham-driniaeth.
"Oedde ni eisiau gwneud rhywbeth hwyl a dan ni eisiau rhoi cymorth i fenywod felly, pam ddim gwneud marathon 12 awr o symudiad?
"Mae'r stiwdio wedi croesawu cannoedd o fenywod trwy ei drysau, 'a dan ni wir yn creu cymuned hyfryd a dwi'n gallu gweld bod y menywod yma eisiau helpu menywod arall."
'Fy angerdd yw cefnogi menywod'
Nod y ddigwyddiad yw codi £3,000 mewn un diwrnod i gefnogi menywod a theuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin domestig.
Bydd pob archeb, rhodd a dosbarth dawns ystod y 12 awr yn mynd yn uniongyrchol tuag at helpu'r rhai sydd angen diogelwch, cefnogaeth a dechrau newydd.
Ychwanegodd Miriam: "Dwi'n meddwl ei bod amdan codi'r profile o beth sydd yn digwydd yng Nghymru a'r menywod sydd angen ein help."