Dynes o Gaerdydd yn y llys ar gyhuddiad o ddatgan cefnogaeth i Hamas

Kwabena
Kwabena

Clywodd llys fod dynes 27 oed o Gaerdydd sydd wedi ei chyhuddo o ddatgan cefnogaeth i Hamas wedi dweud wrth dorf fod y grŵp yn "brwydro dros ryddid." 

Yn Llys y Goron Bryste ddydd Llun, clywyd honiadau i Kwabena Devonish (ail o'r chwith yn y prif lun) ddweud ei bod wedi cael llond bol, oherwydd y pwysau i feirniadu Hamas, sy'n cael ei ystyried yn grŵp terfysgol.  

Mae Ms Devonish wedi ei chyhuddo o fynegi barn a oedd yn cefnogi Hamas yn ystod araith yn Nhachwedd 2023 yn Sgwâr Canolog Caerdydd, lle roedd torf wedi ymgynnull yn Nhŷ William Morgan.

Cafodd ei harestio fis Ionawr 2024 ar ol i fideo o'i haraith ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol. 

Yn y fideo a gafodd ei chwarae i aelodau'r rheithgor, roedd modd clywed Ms Devonish yn dweud: “Os ydych eisiau siarad am drais, ac anfadwaith, yna edrychwch ar wladwriaeth Israel.  

“Rydw i wedi cael llond bol yn cael gwybod bod angen i mi feirniadu Hamas, pan fo Hamas yn brwydro dros y bobl.”

Clywodd y llys fod yr orymdaith wedi ei chynnnal ar 11 Tachwedd 2023, gyda thua 500 o bobl yn bresennol.

Mae Kwabena Devonish o ardal Pentrebaen yng Nghaerdydd yn gwadu'r cyhuddiad yn ei herbyn.  

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.