Dyn yn pledio’n euog i fygwth pobl â ‘machete’ ym Mae Colwyn

Ffordd Abergele

Mae dyn 23 oed wedi pledio’n euog i fygwth pobl â ‘machete’ ym Mae Colwyn.

Fe ymddangosodd Kyle Jones, sydd heb gyfeiriad sefydlog, o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Iau.

Fe gafodd ei arestio nos Fawrth ar ôl adroddiadau bod dyn yn bygwth pobl ifanc ar Ffordd Abergele, Bae Colwyn gyda chyllell ‘machete’.

Cafodd ei gyhuddo o fygwth â llafn / teclyn miniog mewn man cyhoeddus.

Pleidiodd yn euog yn y llys ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar 13 Mawrth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.