Dyn o Wynedd sydd wedi byw â chanser yn codi dros £12,000 i elusen
Mae dyn o Wynedd wedi ennill gwobr am gasglu dros £12,000 tuag at elusen ganser ar ôl derbyn diagnosis o ganser ei hun.
Enillodd David Pugh, 74 oed o Landwrog, wobr casglu arian y flwyddyn yng Ngwobrau Ymchwil Ganser Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru mewn digwyddiad yn Lerpwl yn gynharach y mis hwn.
Dechreuodd ymdrechion Mr Pugh, sy’n gweithio fel milfeddyg, i godi arian i’r elusen yn 2018 wrth gymryd rhan mewn her seiclo 300 milltir o Gaerhirfryn i Ddulyn.
Fe lwyddodd i gyflawni her debyg y flwyddyn ganlynol, gan feicio o Lerpwl i dde-orllewin Cymru ac ymlaen i Ddulyn.
Ond yn 2022, cafodd ddiagnosis ei hun o ganser y coluddyn.
“Oedd o’n dipyn o sioc,” meddai.
“Yn y dechrau, oedd o jyst yn sialens o’n i’n rhan ohono efo North West Cancer Research.
“Ond pedair blynedd yn ôl, ges i fy diagnosio efo'r canser fy hun, a naeth hynna'n neud petha ychydig yn fwy berthnasol, ‘lly.”
Dywedodd ei fod wedi penderfynu codi arian i’r elusen gan ei fod yn cefnogi cymunedau yng ngogledd Cymru.
“O’n i’n gweld bod yr ymchwil yn berthnasol i ni. Maen nhw'n cefnogi Prifysgol Bangor efo ymchwil. Maen nhw’n cyfro ardal Lancashire a fyny fan'na, a gogledd Cymru hefyd.
“Mae’r elusen yn dweud bod yr ardal yna - y gogledd orllewin - bod 'na 25% yn uwch o achosion na gweddill y wlad. So o'n i'n gweld bod o'n berthnasol i'r fan hyn ac wedyn dyna pam wnes i fynd efo nhw.”
Gwella
Fe ddywedodd Mr Pugh, sy’n dad i ddau ac yn daid i chwech o blant, ei fod wedi bod heb symptomau ers iddo dderbyn llawdriniaeth a chemotherapi yn Ysbyty Gwynedd a radiotherapi yn Ysbyty Glan Clwyd.
Bydd yn dal i dderbyn gofal ac apwyntiadau drwy’r gwasanaeth iechyd tan bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers ei ddiagnosis gwreiddiol.
Ychwanegodd: “Mae o dal yng nghefn eich meddwl chi. Mae o’r math o beth da chi ddim yn gwybod bod o yna nes da chi'n dangos rhyw fath o symptomau.
“Mae o'n dal ar eich meddwl chi, ond fel mae’r blynyddoedd yn pasio, mae o’n lleihau ychydig bach.”
Mae Mr Pugh wedi parhau i godi arian i’r elusen ers gwella, gan gymryd rhan mewn her seiclo o Lerpwl i Gaer ac yn ôl dros y ddwy flynedd diwethaf.
Ac eleni, fe gafodd ei enwebu ar gyfer un o’r prif wobrau yn seremoni wobrwyo’r elusen, gyda’r Fonesig Laura Kenny, un o seiclwyr amlycaf Prydain yng Ngemau’r Olympaidd, yn cyflwyno’r wobr.
“O'n i'n gwybod bod fi'n un o dri i gael fy enwebu,” meddai.
“Dame Laura Kenny oedd yn cyflwyno'r wobr a pan nath hi ddweud bod y person oedd wedi ennill wedi dechrau codi arian yn 2018, nesh i feddwl – ‘mae gen i jans go dda felly’.
“Ac wedyn nath hi enwi fi a nesh i fynd i fyny ar y stage i gael fy nghyflwyno gan hi. Oedd o’n dipyn o anrhydedd de.
“O'n i’n poeni dipyn bach na fyswn i’n ennill dim byd ar ôl dragio pawb o’r teulu yna, ond yn ffodus, mi wnes i ennill o.”
Prif lun: Y Fonesig Laura Kenny gyda David Pugh