Dyn o Wynedd yn pledio’n euog i fod â llawlyfr yr IRA yn ei feddiant
Mae dyn o Wynedd wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o drosedd terfysgol ar ôl iddo gael ei ganfod gyda llawlyfr yr IRA ar ei ffôn symudol.
Fe wnaeth Jac Glyn Pari Edwards, 23 oed, o'r Bermo, ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Gwener wedi’i gyhuddo o bedwar achos o feddu ar ddogfen sy’n ddefnyddiol i derfysgaeth.
Fe wnaeth Mr Edwards, a oedd yn gwisgo crys gwyn a throwsus du, siarad yn y llys i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni, cyn pledio’n euog i'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn.
Clywodd y llys fod Mr Edwards wedi cael ei ganfod gyda phedair dogfen a fyddai'n debygol o fod yn ddefnyddiol i berson sy'n cyflawni neu'n paratoi gweithred o derfysgaeth.
Roedd y dogfennau yn cynnwys llawlyfr yr IRA, The Anarchist Cookbook - sy'n cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i weithgynhyrchu ffrwydron - llawlyfr ar weithrediadau glanhau ethnig, a llawlyfr ar ryfela guerrilla.
Roedd Mr Edwards hefyd wedi’i gyhuddo o feddu ar arf tanio yn flaenorol, ond cafodd y cyhuddiad hwnnw ei ddiddymu cyn y gwrandawiad yn Llys y Goron, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron yn flaenorol.
Dywedodd bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad ei fod yn argymell gwneud cais am adroddiad ar gyflwr iechyd meddwl Mr Edwards, gan ei fod yn amau bod ganddo "salwch meddwl a allai fod wedi effeithio ar ei atebolrwydd".
Dywedodd y Barnwr Dennis Watson KC ei fod am i'r adroddiad hwnnw gael ei baratoi.
Cafodd Mr Edwards ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 22 Ionawr.