Dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 16 oed yn Llundain
Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio merch 16 oed mewn cartref teuluol yn nwyrain Llundain.
Bydd Milon Matubber, o Grosvenor Gardens, yn Newham, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Ealing ddydd Llun, wedi’i gyhuddo o ladd Wania Islam.
Cafodd Heddlu’r Met eu galw i Grosvenor Gardens am 3:40pm ddydd Gwener ar ôl derbyn adroddiadau am bryderon ynghylch lles merch yn ei harddegau.
Cafodd Wania ei datgan yn farw yn y fan a’r lle, ac fe gafodd Milon Matubber ei arestio ym Maes Awyr Stansted yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Wayne Jolley, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae fy meddyliau gyda ffrindiau a theulu Wania ar yr adeg wirioneddol ofnadwy hon wrth iddyn nhw geisio dod i delerau â’u colled.
“Er bod dyn wedi’i gyhuddo, rydym yn bwrw ymlaen â'n hymholiadau ar gyflymder sylweddol.”