Dyn wedi ei saethu'n farw ar dir cartref Donald Trump
Mae dyn wedi ei saethu'n farw ar dir cartref yr Arlywydd Trump yn Florida.
Mae sianel CBS News yn America yn dweud mai Austin T Martin yw enw'r dyn sydd wedi marw.
Roedd yn ddyn gwyn, yn 21 oed ac yn hanu o ddinas Cameron, Gogledd Carolina, ychwanegodd y darlledwr.
Digwyddodd y saethu tua 01.30 fore Sul, ac yn ôl y gwasanaethau cudd, cafodd y dyn ei weld ger giat ogleddol ystad Mar-a-Lago yn West Palm Beach.
Yn ôl yr awdurdodau, roedd yn cario gwn a chanister nwy.
Doedd Donald Trump a'i wraig Melania ddim yn Mar-a-Lago ar y pryd, gan fod y ddau yn y Tŷ Gwyn yn Washington DC.
Dyw enw'r dyn sydd wedi ei saethu ddim wedi ei gyhoeddi yn swyddogol, ond mae'r awdurdodau wedi cysylltu â'i deulu.
Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd yr heddlu bod swyddogion diogelwch wedi gorchmyn i'r dyn ollwng y gwn a'r canister nwy, a bod dau swyddog yn bresennol ar y pryd.
Gollyngodd y dyn y canister ond "cododd y gwn i safle tanio" yn ôl yr awdurdodau.
Cafodd ei saethu yn syth.
Wrth gael ei holi gan newyddiadurwyr, dywedodd Sheriff Palm Beach, Ric Bradshaw nad oedd yn gwybod sawl gwaith y cafodd gwn ei danio, a doedd e ddim yn gwybod a oedd bwledi yn y gwn a oedd yn nwylo'r dyn sydd wedi marw.
Chafodd neb arall ei anafu.
Mae'r FBI yn casglu tystiolaeth ar hyn o bryd , ac mae disgwyl rhagor o wybodaeth maes o law.
Er nad yw'r amgylchiadau arweiniodd at y saethu yn Florida yn glir - nid dyma'r tro cyntaf i swyddogion diogelwch sy'n gwarchod yr Arlywydd Trump orfod delio ag unigolion gydag arfau.
Ym Medi 2024, sylwodd asiant o'r gwasanaethau cudd fod gwn mewn gwrych ar safle golff Trump International Golf Club yn West Palm Beach.
Llwyddodd dyn o'r enw Ryan Routh i ddianc o'r lleoliad ond cafodd ei ddal yn ddiweddarach.
Cafodd Routh ei ddyfarnu'n euog o geisio lladd yr Arlywydd Trump, a chafodd ei ddedfrydu i garchar am oes ddechrau Chwefror 2026.
Yng Ngorffennaf 2024, cafodd Donald Trump ei saethu wrth iddo siarad mewn digwyddiad yn Butler, Pennsylvania, gyda'r fwled yn anafu ei glust.
Cafodd yr ymosodwr 20 oed, Thomas Matthew Crooks, ei ladd.
Cafodd person arall ei ladd a dau eu hanafu'n ddifrifol.