Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr yn Rhondda Cynon Taf

Tonysguboriau

Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr yn Nhonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i ffodd yr A4119 Ffordd Dyffryn Elai, ger Llantrisant, am 16.45 ddydd Mercher 4 Tachwedd.

Bu farw dyn yn y fan a'r lle o ganlyniad i'r ddamwain. Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.

Mae'r llu yn apelio am wybodaeth neu luniau camera dashfwrdd gan unrhyw un oedd yn y lleoliad ar adeg y gwrthdrawiad.

Mae modd cysylltu â'r llu drwy ffonio 101, neu gysylltu drwy wefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600360991.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.