Dyn wedi ei anafu'n ddifrifol mewn damwain ger Trawsfynydd

Trawsfynydd

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Trawsfynydd yn gynnar fore dydd Mercher.

Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar ôl derbyn galwad ffôn am 06:43 yn adrodd fod gwrthdrawiad wedi bod rhwng dau gerbyd.

Lori dipio Ford Transit wen a char Toyota Aygo llwyd oedd y cerbydau hynny, ac roeddynt wedi taro ei gilydd ger cyffordd yr A470 a'r A4212.

Cafodd y ddau ddyn oedd yn gyrru'r ddau gerbyd eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Cafodd un dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gyda mân anafiadau.

Fe gafodd y dyn arall ei gludo i ysbyty yn Stoke, lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau difrifol.

Mae'r rhingyll Gerallt Williams o Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth: “Hoffwn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio yn yr ardal ddoe yn y bore, ac a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu wedi gweld un o'r cerbydau yn union cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â ni,” meddai.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.