Dyn o Ruthun a honnodd ei fod yn filiwnydd ac yn glaf canser wedi’i garcharu am dwyll
Mae dyn o Sir Ddinbych a honnodd ei fod yn filiwnydd ac yn glaf canser wedi cael ei garcharu am dair blynedd a dau fis.
Roedd Joseph Gibson, 35 oed, o Ruthun, wedi dweud celwydd ei fod werth £400 miliwn ac yn berchen ar gychod hwylio a cheir moethus.
Roedd hefyd wedi honni ei fod wedi gwasanaethu yn y Gwasanaeth Cychod Arbennig sy'n rhan o Lynges Frenhinol y Deyrnas Unedig.
Cafodd ei arestio yn y pen draw a chyfaddefodd i bedwar achos o dwyll yn erbyn tair menyw ac un dyn, ar ôl eu twyllo o £68,000 rhwng Gorffennaf 2020 a Hydref 2021.
Roedd Gibson wedi gofyn yn flaenorol i farnwr yn Llys y Goron Bryste ohirio dedfrydu yn ei achos, gan honni bod ganddo £40,000 mewn cynilion i ad-dalu ei ddioddefwyr ar ôl gweithio yn y diwydiant peirianneg yn y DU, Bwlgaria a Dubai.
Ddydd Iau, cyfaddefodd Gibson nad oedd wedi gallu codi’r swm hwnnw ac mai dim ond £15,000 y gallai ei ddarparu nes bod mwy o arian ar gael.
Dywedodd wrth y Cofiadur Jaron Crooknorth y gallai gynilo £5,000 y mis i dalu iawndal, a gofynnodd i’w ddedfryd gael ei gohirio am naw mis arall er mwyn ad-dalu ei ddioddefwyr yn llawn.
Ond gwrthododd y barnwr y cais, ac yn hytrach dedfrydodd Gibson i dair blynedd a dau fis yn y carchar.
Gorchmynnodd y barnwr hefyd i gamau gael eu cymryd i adennill yr arian a gafodd Gibson drwy ei dwyll.
"Joseph Gibson, twyllwr ydych chi, yn syml," meddai’r barnwr wrtho.
"Mae wedi cymryd blynyddoedd i chi gyfaddef hynny.
"Trueni am y rhai sydd wedi cael yr anffawd o’ch cael chi'n dod i’w bywydau, gan fanteisio ar eu teimladau, dwyn eu harian, dwyn eu breuddwydion a chwalu eu perthnasoedd."
'Ffantasi llwyr'
Dywedodd y barnwr fod Gibson wedi bod o gymeriad da yn y gorffennol ac wedi cyfaddef i’w droseddau, er mai ychydig cyn ei achos llys y gwnaeth hynny.
Ychwanegodd y byddai Gibson yn cael "ychydig iawn" o ostyngiad yn ei ddedfryd am edifeirwch.
"Mae’n ddrwg gennych am y sefyllfa rydych wedi’ch cael eich hun ynddi," meddai’r barnwr.
"Rydych wedi ceisio perswadio’r llys hwn fod gennych fwy o arian nag sydd gennych. Nid ydych wedi dangos tystiolaeth o’r arian hwnnw i mi.
"Rydych wedi ceisio twyllo’r llys hwn i gredu bod gennych yr arian."
Clywodd y llys fod Gibson wedi cyfarfod dwy o’i ddioddefwyr ar Tinder, gan berswadio un ohonynt eu bod mewn perthynas.
Dangosodd luniau iddynt o dai mawr a honnodd ei fod yn ystyried eu prynu.
Dywedodd Gibson wrth ei ddioddefwyr fod ganddo ganser, ei fod wedi gwasanaethu yn y Special Boat Service, a’i fod wedi cael ei chwythu i fyny gan ddyfais ffrwydrol - honiadau a ddisgrifiwyd gan y barnwr fel "ffantasi llwyr".
Mewn negeseuon testun a gafodd eu rhyddhau ar ôl yr achos, roedd Gibson yn honni bod ganddo gartrefi yn Sandbanks, Caerfaddon, Dubai, Singapore a Mayfair yn Llundain, yn ogystal â 21 eiddo rhent.
Honnodd hefyd ei fod wedi gwneud £1.1 miliwn drwy fasnachu ariannol.
Collodd ei ddioddefwr cyntaf, menyw fusnes o Ddyfnaint, fwy na £5,200 ar ôl credu ei gelwyddau a rhoi arian iddo brynu stoc ar gyfer ei busnes.
Ym mis Awst 2020, dywedodd Gibson wrth y fenyw fod ganddo ganser, gan anfon llun ohono’i hun ati, yn ôl pob golwg mewn gwely ysbyty.
Erbyn diwedd ei dwyll, dim ond 93c oedd ar ôl yng nghyfrif banc y fenyw.
Disgrifiodd y barnwr ail ddioddefwr Gibson fel "trap Tinder arall", lle’r oedd wedi seilio ei ymddygiad ar Mr Grey o’r ffilm Fifty Shades of Grey.
Roedd wedi darganfod fod gan y fenyw £10,000 mewn cynilion ac fe wnaeth ei pherswadio i’w anfon ato i’w fuddsoddi, gan honni y gallai ei droi'n £150,000.
Yn 2021, cymerodd y fenyw fenthyciad o £4,000 ar ôl i Gibson honni bod angen arian ar frys arno ar gyfer triniaeth ganser breifat.
Yn ddiweddarach, cafodd ei gorfodi i lunio cytundeb gwirfoddol unigol i reoli ei dyledion.
"Mae hi wedi torri ac wedi blino’n lân," meddai’r barnwr wrth Gibson. "Mae hi wedi colli pob hyder ac ymddiriedaeth."
Roedd y trydydd dioddefwr yn berthynas i’r ail ddioddefwr, a chymerodd fenthyciadau er mwyn buddsoddi yng nghynlluniau buddsoddi ffug Gibson. Collodd fwy na £18,000 i gyd.
"Fe wnaeth hi erfyn arnoch am ei harian yn ôl," meddai’r barnwr wrth Gibson.
Roedd dioddefwr olaf Gibson yn gapten cwch hwylio wedi ymddeol, a dywedodd y diffynnydd wrtho ei fod wedi prynu cwch hwylio gwerth £7 miliwn ar ôl gwerthu rhaglen arfau i lywodraeth yr Unol Daleithiau am £400 miliwn.
Disgrifiodd y dyn sut yr oedd wedi cael ei adael mewn dagrau wrth ysgrifennu ei ddatganiad personol fel dioddefwr, gan ddisgrifio effaith troseddau Gibson arno.
"Mae ei freuddwyd o deithio o amgylch y byd gyda’i wraig wedi diflannu," meddai’r barnwr.
Bydd Gibson yn ymddangos eto mewn gwrandawiad ym mis Mawrth, er mwyn adennill ei asedau a defnyddio’r arian i ad-dalu ei ddioddefwyr.
