Dyn o’r Almaen sydd wedi dysgu Cymraeg yn cloi’r Eisteddfod Genedlaethol

Dyn o’r Almaen sydd wedi dysgu Cymraeg yn cloi’r Eisteddfod Genedlaethol

Fe wnaeth dyn o'r Almaen sydd wedi dysgu Cymraeg gloi Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las nos Sadwrn.

Mae Hendrik Robisch yn byw ac yn dod o'r Almaen, ond mae wedi dysgu Cymraeg ac roedd ar Faes y Brifwyl yn Llantwd ddydd Sadwrn. 

Roedd Hendrik yn cymryd rhan yn y Bandioci Gwerin yn y Tŷ Gwerin, ac ef wnaeth gloi'r noson wrth ganu Safwn yn y Bwlch. 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Dwi jyst wedi neud perfformiad bach yn y Bandioci Gwerin gyda Gwilym Bowen Rhys, ges i’r fraint i bennu’r sioe yn canu Safwn yn y Bwlch ag o’dd e’n hwyl.

"Alla i ddim, ma’ geirie ar goll, o’dd y teimlad jyst mor gryf gyda pawb yn cyd-ganu gyda fi, waw, o’dd e’n pleser pur."

Mae gan Hendrik ddiddordeb mawr mewn ieithoedd. 

"Dwi’n dod o’r Almaen, a dwi wedi dysgu Cymraeg gyda Say Something in Welsh a jyst achos dwi’n caru ieithoedd a dwi wedi darganfod yr iaith Gymraeg a wedi darganfod y  cerddoriaeth Gymraeg," meddai. 

"Dyna fy stori i, dwi wedi dechre dysgu 10 mlynedd yn ôl nawr a felly dwi’n eitha  cyfforddus erbyn hyn ond ie, mae’n brofiad ffantastig bod yma yn yr Eisteddfod."

Doedd Henrik ddim yn ymwybodol iawn o'r Eisteddfod tan iddo ddechrau dysgu Cymraeg. 

"Siŵr o fod wrth ddysgu Cymraeg, mae’r Eisteddfod yn popo lan a dwi jyst wedi dysgu bod e’n  gyfle i gwrdd â phobl a dwi jyst yn cael y cyfle i siarad gyda pobl," meddai. 

"Yn yr Almaen, does dim lot o gyfle i fi siarad gyda pobl heblaw ar-lein ond ma’n tipyn bach o deimlad gwahanol os ma’n cwrdd yn y cnawd."







 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.