Gwrthdrawiad rhwng dau fws ar yr A55 yn achosi oedi i draffig

A55

Mae gwrthdrawiad sy’n cynnwys o leiaf dau fws ar ffordd yr A55 ym Mae Colwyn yn achosi oedi sylweddol i draffig yn yr ardal brynhawn Sul.

Yn ôl Traffig Cymru, mae’r digwyddiad ar y ffordd tua’r dwyrain rhwng Cyffordd 21 ym Mae Colwyn a Chyffordd 22 yn Hen Golwyn.

Mae lôn un o’r ffordd ddeuol ar gau oherwydd y gwrthdrawiad, gyda thagfeydd trwm i’w gweld rai milltiroedd i ffwrdd o leoliad y gwrthdrawiad.

Mae’r gwasanaethau brys hefyd wedi eu galw i’r digwyddiad.

Mae cyfyngiad cyflymder o 50mya hefyd mewn grym drwy Dwnnel Conwy.

Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o bryd, ac nid oes adroddiadau ynglŷn ag unrhyw anafiadau.

(Llun: Traffig Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.