Dyn mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad honedig y tu allan i dafarn
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau allai beryglu ei fywyd, wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad i ymosodiad honedig y tu allan i dafarn yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent.
Yn ôl Heddlu Gwent, digwyddodd yr ymosodiad honedig rywbryd rhwng 23:30 nos Wener 20 Chwefror a 00.15 fore Sadwrn 21 Chwefror.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw i Stryd Bethcar, y tu allan i dafarn Picture House sy'n berchen i JD Wetherspoon.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Elaine Newbury, o Heddlu Gwent: "Mae ein hymholiadau yn parhau i geisio darganfod yr amgylchiadau arweiniodd at yr ymosodiad honedig
"Er ein bod yn credu mai digwyddiad unigol oedd hwn, rydym yn deall bod adroddiadau am drais yn ein cymunedau yn medru peri pryder
"Mae ein swyddogion yn yr ardal yn cynnal ymholiadau, yn casglu deunydd CCTV a thystiolaeth. Oes oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â nhw os gwelwch yn dda."
Mae modd i unrhyw un sydd â gwyboddaeth gysylltu â'r heddlu drwy ddyfynnu'r rhif 2600055384.