Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o dreisio bachgen yn y Bala
Mae ynadon wedi gwrthod rhyddhau dyn 35 oed ar fechnïaeth ar ôl iddo ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o dreisio bachgen yn y Bala yng Ngwynedd.
Fe wnaeth Jonathon Shilvock, o Abbey Crescent, Oldbury, yng ngorllewin canolbarth Lloegr, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o achosi i fachgen gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol, ymgais i dreisio a chreu fideos anweddus o blentyn.
Fe wnaeth y cyfreithiwr oedd yn ei amddiffyn, Asad Khan, ymgais i sicrhau bod Mr Shilvock, sydd yn gweithio fel sgaffaldwr, yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Ond cafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 2 Tachwedd.