Dyn ifanc o Langollen gafodd ei anafu mewn damwain feic yn Tsieina i hedfan adref ddydd Llun
Fe fydd dyn ifanc o Langollen a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad wrth seiclo yn Tsieina yn hedfan adref ddydd Llun.
Cafodd Dyfan Hughes ei anafu mewn gwrthdrawiad â lori wrth deithio drwy Tsieina fel rhan o daith seiclo elusennol o Langollen i Wlad Thai.
Mewn diweddariad ar gyfrif Instagram y tri, WestHeads, dywedodd Dyfan fore Sadwrn ei fod wedi cael cadarnhad gan yswirwyr nos Wener yn dweud bod modd iddo hedfan adref.
"Roedd o'r newyddion gorau dwi wedi ei glywed ers tro. Ar ôl saith wythnos hir yn gorwedd yn y gwely yma yn Tsieina, dwi o'r diwedd yn dod adref ddydd Llun.
"Mae o'n mynd i fod yn ddiwrnod hir iawn o deithio ac mae'n mynd i gymryd mwy na 30 awr i gyrraedd adref."
Ychwanegodd Dyfan y byddai un doctor ac un nyrs gydag ef drwy gydol y daith.
"Dwi'n cyfri'r oriau rŵan. Dwi methu aros i weld fy ffrindiau a fy nheulu."
Taith elusennol
Cychwynnodd Dyfan ar y daith gyda’i ffrindiau James Thomas a Louis Dennis ym mis Awst y llynedd.
Mae’r tri wedi seiclo drwy nifer o wledydd yn Ewrop ac Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan, cyn cyrraedd Tsieina ddechrau mis Mehefin.
Maen nhw’n codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.
Mae’r daith wedi cael ei chofnodi ar gyfrifon WestHeads ar Instagram a TikTok.
Cafodd y daith ei gohirio ar ôl damwain Dyfan, gyda’i rieni yn teithio i Tsieina i fod gydag ef yn yr ysbyty.
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad i ohirio’r daith, dywedodd y criw eu bod yn bwriadu dychwelyd ati pan fydd hi’n ddiogel i Dyfan feicio eto.
“Peidiwch â meddwl am hyn fel y daith yn cael ei thorri’n fyr - dim ond stori arall fydd ganddon ni i’w hadrodd wrth yr wyrion,” medden nhw ar y pryd.
Dywedon nhw eu bod yn dal yn bwriadu cyrraedd Chiang Mai yng Ngwlad Thai.