Dyn yn euog o lofruddio ei wraig 'ar ôl pryderon y byddai'n ei adael'

Tracey Davies

Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio ei wraig "gariadus" yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, ar ôl pryderon y byddai'n ei adael. 

Fe blediodd Michael Davies, 58 oed, yn flaenorol yn euog i ddynladdiad Tracey Davies, ond roedd wedi gwadu ei llofruddio yn eu cartref yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr y llynedd.

Cafodd Mrs Davies ei darganfod yn farw ar 18 Ebrill 2025 pan y gwnaeth aelodau o'i theulu gael mynediad at y cartref yn sgil pryder am ddiffyg cyswllt. 

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ei bod hi wedi cael ei chrogi gan ei gŵr, a aeth ymlaen i drywanu ei hun, ond fe wnaeth wella o'i anafiadau. 

Dywedodd Heddlu'r De ddydd Gwener ei fod wedi ei gael yn euog o lofruddio Mrs Davies, a gafodd ei disgrifio gan ei theulu fel "dynes eithriadol".

'Erchyll'

Ychwanegodd y teulu: "Fel teulu, dydyn ni heb, ac ni fyddwn ni fyth, yn gallu dod i delerau â cholli Tracey. 

"Mae ei cholli hi mewn ffordd mor erchyll a threisgar yn gwaethygu'r boen rydyn ni'n ei theimlo.

"Ni fydd hyd unrhyw ddedfryd sy'n cael ei roi i Michael yn dilyn y dyfarniad heddiw byth yn dod â Tracey yn ôl.

"Ni wnaeth Tracey unrhyw beth ond caru a gofalu am Michael Davies, hyd yn oed yn ei dyddiau olaf."

Clywodd y llys fod Davies, a oedd yn gweithio yn Abu Dhabi ar y pryd, wedi cael ei anfon adref oherwydd ei iechyd meddwl gwael, ac ei fod yn paranoid y byddai ei wraig yn ei adael. 

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Claire Lamerton o Heddlu'r De: "Mae hwn yn achos erchyll sydd wedi effeithio'n fawr nid yn unig ar y teulu agos ond hefyd ar y gymuned ehangach a oedd yn adnabod Tracey Davies.

"Yn ystod yr achos, daeth i'r amlwg fod Tracey Davies yn wraig, mam, llys-fam a llys-fam-gu ymroddedig, ac y byddai'n gwneud unrhyw beth ar gyfer unrhyw un ac roedd hi’n wraig gefnogol a chariadus i Mr Davies."

Fe fydd Davies yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.