Y dyn busnes blaenllaw Syr Roger Jones wedi marw yn 83 oed

Syr Roger Jones

Mae’r fferyllydd a’r dyn busnes blaenllaw Syr Roger Jones wedi marw yn 83 oed.

Wedi’i eni yng Ngharrog, Sir Ddinbych a’i fagu ym Mro Dyfrdwy, roedd Syr Roger yn ffigwr dylanwadol ym myd busnes a bywyd cyhoeddus Cymru.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala cyn astudio yn Ysgol Fferylliaeth Cymru yng Nghaerdydd ac yna astudio rheolaeth ym Mhrifysgol Bradford.

Dechreuodd ei yrfa gyda’r Wellcome Foundation, gan weithio mewn swyddi yn Affrica, y Dwyrain Canol a Dwyrain Ewrop.

Penn Pharmaceuticals

Ar ôl gadael Wellcome, sefydlodd Penn Pharmaceuticals yn yr 1980au cyn symud y cwmni o Sir Buckingham i Dredegar, yn y de-ddwyrain.

Tyfodd yn gwmni rhyngwladol a oedd yn datblygu ac yn cynhyrchu meddyginiaethau ar gyfer treialon clinigol.

Roedd Syr Roger hefyd yn sylfaenydd ac yn gadeirydd ZooBiotic, a oedd yn datblygu’r defnydd o gynrhon di-haint i lanhau clwyfau.

Yn ôl BioMonde UK, ZooBiotic oedd y cwmni masnachol cyntaf i ddeillio o’r GIG, gan droi triniaeth oedd wedi’i datblygu mewn ysbyty yn fusnes annibynnol.

Gwasanaeth cyhoeddus

Roedd Syr Roger yn gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru o fis Ionawr 2002 tan 31 Mawrth 2006.

Fe oedd cadeirydd olaf y corff cyn iddo gael ei ddiddymu a’i swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

Bu hefyd yn llywodraethwr y BBC dros Gymru ac yn gadeirydd Plant mewn Angen.

Roedd yn aelod o Awdurdod S4C rhwng mis Tachwedd 2003 a mis Tachwedd 2011, gan wasanaethu ar ei bwyllgorau personél, archwilio a rheoli risg.

Bu’n Ddirprwy Ganghellor ac yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe, ac roedd yn un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Roedd hefyd yn ymddiriedolwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac yn llywodraethwr Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.

Cafodd OBE yn 1996 am ei wasanaeth i’r diwydiant fferyllol, cyn cael ei urddo’n farchog yn 2005 am ei wasanaeth i fusnes a hyfforddiant yng Nghymru.

Roedd Syr Roger yn bysgotwr brwd ac fe gyhoeddodd gofiant am ei fywyd a’i yrfa, A Fisherman’s Fortune.

Teyrngedau

‘Cawr’

Ymhlith y rhai sydd wedi rhoi teyrnged iddo, mae'r academydd a’r arbenigwr menter, yr Athro Dylan Jones-Evans. Roedd yn adnabod Syr Roger drwy fyd busnes Cymru, ac fe ddywedodd ei fod wedi bod yn gefnogwr mawr iddo.

“Roedd Roger yn gawr mewn cymaint o ffyrdd. Roedd yn ddyn da a fydd yn cael ei golli gan lawer.”

Mae nifer o'r teyrngedau yn cyfeirio at gyfnod Syr Roger yn Awdurdod Datblygu Cymru. Bu Gareth John yn gweithio ym maes marchnata’r Awdurdod pan roedd Syr Roger yn gadeirydd, ac roedd yn cofio ei gefnogaeth i’r gwaith a’r sgyrsiau rhyngddynt am bysgota plu.

“Dyn gwych, a oedd wastod yn gefnogol iawn i’n hymdrechion marchnata. Roedd llawer o’n sgyrsiau ar ôl gwydraid o win yn troi at bysgota plu, ac mae Cymru angen rhagor o bobl fel Roger Jones!”

Bu Mike King hefyd yn gweithio yn yr Awdurdod yn ystod cyfnod Syr Roger fel cadeirydd, gan rannu’r hyn a ddisgrifiodd fel adegau difyr a chynhyrchiol gydag e.

“Roedd Roger yn unigryw ym myd busnes ac o ran ei bersonoliaeth. Rydym wedi colli un o entrepreneuriaid a chymeriadau mawr Cymru,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.