Dyn 86 oed o'r de yn pasio ei arholiad TGAU Mathemateg ar ôl methu 70 mlynedd yn ôl
Mae dyn 86 oed o'r de wedi pasio ei arholiad TGAU Mathemateg 70 mlynedd ar ôl methu â phasio'r pwnc.
Fe lwyddodd Brian Jones, sy'n byw yn Fairwater yng Nghwmbrân, i gael gradd C ar ôl astudio drwy gwrs Dysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen.
Roedd wedi methu â phasio'r arholiad cyfatebol 'nôl ym 1956, gan ddweud ei fod wastad wedi bwriadu ail-sefyll, ond fod bywyd wedi "cymryd drosodd".
Ar ôl camu yn ôl o rai o'i ddyletswyddau yn 80 oed, fe benderfynodd Mr Jones i astudio TGAU Mathemateg a hynny er mwyn "cadw ei feddwl yn actif".
"Mae gen i ffrindiau a chefndryd mewn oed tebyg sy'n byw mewn cartrefi gofal ac roeddwn i eisiau cadw fy meddwl yn brysur. Nid yw oedran yn ffactor.
"Dwi wastad wedi bod yn ddyn eithaf positif. Dyw p'un ai ydych chi'n pasio neu'n methu ddim yn bwysig iawn. Mae'r ffaith eich bod chi'n trio yn ddigon."
Ychwanegodd Mr Jones fod ei wyrion hefyd yn astudio ar gyfer eu harholiadau TGAU, gan greu profiad i'w rannu rhwng y teulu.
"Roedd cael hynny yn gyffredin yn gymorth i mi gysylltu gyda fy wyrion," meddai.
"Roedden ni'n gallu rhannu syniadau, trafod gwaith cwrs a chefnogi ein gilydd. Roedd eisiau eu helpu nhw yn anogaeth mawr i mi."
Mae bellach wedi cofrestru i astudio ar gyfer ei bwnc nesaf, sef TGAU Saesneg.
Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Gauden, aelod gweithredol dros yr economi, sgiliau ac adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen: "Mae hon yn gamp ffantastig sy'n profi nad yw hi fyth yn rhy hwyr i ddysgu, herio eich hun a chyrraedd nodau newydd."