Dyn 27 oed yn gwadu treisio dynes ger maes Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan
08/06/2026Dyn 27 oed yn gwadu treisio dynes ger maes Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan
Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn dyn 27 oed sydd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes ger maes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan bron i dair blynedd yn ôl.
Yn Llys y Goron Caernarfon, mae Emlyn Jones yn gwadu'r pedwar o gyhuddiadau yn ei erbyn sy'n cynnwys ymosod yn rhywiol, tagu'n fwriadol a threisio.
Mi glywodd y llys fod Emlyn Jones a'r ddynes wedi cyfarfod mewn cyngerdd ar faes yr Eisteddfod ar 6 Awst 2023.
Clywodd y llys fod y ddynes wedi gadael y cyngerdd gyda dyn arall a thra'n chwilio am y garafan lle roedd hi'n aros, daeth y ddau ar draws Emlyn Jones unwaith eto.
Ma'r erlyniad yn honni bod y tri wedi cysgu mewn adlen carafan. Roedd y ddynes yn y canol gydag Emlyn Jones ar un ochr a'r dyn arall ar yr ochr arall.
Clywodd y llys fod y dyn hwnnw wedi gadael y babell ar ôl gweld Emlyn Jones yn ymddwyn yn amhriodol tuag at y ddynes.
Clywodd y llys wedyn fod y ddynes wedi gofyn i'r diffynydd "Be ti 'di neud?" ac mi ymddiheurodd o.
Dywedodd wrtho: "Mi i gysga i'n fama. Cysga di fanna" ac mi ddywedodd "Paid â nghyffwrdd i."
Yn ôl yr erlyniad, mae'r ddynes yn cofio deffro gydag Emlyn Jones arni ac yn cyffwrdd ei bronnau. Clywodd y llys iddi hi geisio ei stopio ac ymladd yn ei erbyn.
Pan ddechreuodd ei thagu yn honedig, mi wnaeth hi banicio a methu symud. Ar yr adeg yma, yr honiad ydy iddo gael rhyw efo hi.
Clywodd y llys iddo adael ac mi wnaeth y ferch gloi ei hun mewn car.
Clywodd y llys fod Emlyn Jones wedi dweud eu bod wedi cytuno i gael rhyw efo'i gilydd a nad oedd gwirionedd yn yr honiad ei fod wedi ei threisio.
Mae'n gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.