Arestio tri wedi i ddyn 25 oed farw ar faes gwersylla ger safle'r Sioe Frenhinol
Arestio tri wedi i ddyn 25 oed farw ar faes gwersylla ger safle'r Sioe Frenhinol
Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau fore dydd Llun wedi i ddyn 25 oed farw wedi adroddiad am argyfwng meddygol ar faes gwersylla ger safle'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Mae tri dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau, ac roedden nhw'n parhau yn y ddalfa ddydd Sul, meddai'r heddlu.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i Fferm Penmaenau am tua 22:30 nos Sadwrn. Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw dyn 25 oed yn y lleoliad, medden nhw.
Mae’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un “sydd heb ei hegluro”.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Fe fydd swyddogion yn bresennol yn yr ardal tra bod ymholiadau’r heddlu’n parhau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Steve Davies: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig, ac mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn ifanc yn ystod yr amser anodd hwn.
“Hoffwn sicrhau’r cyhoedd mai digwyddiad ynysig yw hwn, ac mae’r farwolaeth yn cael ei thrin ar hyn o bryd fel un heb ei egluro.
“Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw risg barhaus i’r cyhoedd ehangach mewn cysylltiad â’r digwyddiad trist hwn.”
'Cydymdeimlad'
Daw'r newyddion ar ddechrau wythnos y Sioe Frenhinol yn y dref.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd perchnogion Fferm Penmaenau: "Gyda thristwch gallwn gadarnhau bod unigolyn, yn anffodus, wedi marw ddoe yn dilyn argyfwng meddygol ar y safle.
"Hoffai deulu Penmaenau estyn ein cydymdeimladau dwysaf gyda theulu, ffrindiau ac anwylion yr unigolyn yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.
"Hoffwn dawelu meddyliau'r bobl sydd yn gwersylla ac ymwelwyr mai argyfwng meddygol oedd hwn.
"Nid oedd ymosodiad neu ddigwyddiad treisgar ynghlwm â'r digwyddiad hwn. Rydym yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas â'r digwyddiad.
"Mae gwersylla Fferm Penmaenau yn parhau ar agor fel arfer ar gyfer y Sioe Frenhinol 2o26. Lles a diogelwch pawb sydd ar y safle sydd yn parhau ein blaenoriaeth bennaf ac rydym yn parhau i redeg safle diogel gydag ein tîm diogelwch a staff ar gael pob awr."
'Cefnogi'
Dywedodd Llyr Gruffydd, gweinidog materion gwledig a chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, ei fod yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau'r dyn.
"Mae'n bwysig peidio â dyfalu beth sydd wedi digwydd a chofio bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau," meddai.
"Fel rhiant i blant sy'n aros yn y sioe yr wythnos hon, mae'n ein hatgoffa o bwysigrwydd meddwl am eraill a gofalu am ein gilydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: "Rydym wedi ein tristhau yn fawr gan y newyddion trasig hwn, ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ifanc, a phawb yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad hwn.
"Mae diogelwch a lles pawb sy'n mynychu'r digwyddiad yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Rydym yn gweithio'n agos fel aelodau o Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt, sydd â mesurau helaeth ar waith, gan gynnwys gwasanaethau lles a chymorth, darpariaeth feddygol a mentrau diogelwch.
"Rydym am i bawb sy'n mynychu deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a chael amser diogel a phleserus."
Llun: Fferm Penmaenau (Google Maps)