Dyma’r ‘cyfle olaf’ i Starmer medd Angela Rayner
Mae cyn Ddirprwy Brif Weinidog y DU wedi rhybuddio Syr Keir Starmer mai dyma’r "cyfle olaf" iddo ar ôl perfformiad trychinebus y Blaid Lafur yn yr etholiadau diweddar yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr.
Fe ychwanegodd Angela Rayner ei bod hi hefyd yn cefnogi dychweliad Andy Burnham i San Steffan.
Dyma’r tro cyntaf i Ms Rayner wneud datganiad ers yr etholiadau ddydd Iau, ac fe ddywedodd fod y blaid wedi bod yn anghywir i rwystro maer Manceinion Fwyaf rhag sefyll fel AS yn gynharach eleni.
Fe alwodd Ms Rayner, sy'n cael ei gweld fel ymgeisydd posib i gymryd lle Syr Keir, arno i gymryd camau mwy beiddgar i wneud i bobl deimlo'n well eu byd.
Ni lansiodd her arweinyddiaeth ei hun, ond bydd ei hymyrraeth yn ychwanegu at y pwysau ar y Prif Weinidog.
Fe aeth ymlaen i alw ar Syr Keir i gymryd mwy o gamau i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a "safonau byw gwasgedig".
Yn ei datganiad 1,000 o eiriau, galwodd ar y Blaid Lafur i gynnig mwy o bwerau economaidd i faterion rhanbarthol, codi'r isafswm cyflog, a bod yn "ddi-ofn wrth hyrwyddo ffurfiau newydd o berchnogaeth gyhoeddus, gymunedol a chydweithredol ar draws y bwrdd".
"Rydym mewn perygl o ddod yn blaid i'r cyfoethog, nid pobl sy'n gweithio," meddai.
"Nid yw'r hyn rydym yn ei wneud yn gweithio, ac mae angen iddo newid.
"Efallai mai dyma ein cyfle olaf."