'Dyma'r amser iawn': George North yn cyhoeddi ei fod am ymddeol o rygbi

George North yn ymddeol

Mae George North wedi dweud y bydd yn ymddeol o rygbi yn gyfan gwbl ar ddiwedd y tymor.

Dywedodd canolwr Provence Rugby, a enillodd 121 o gapiau dros Gymru, ei fod wedi “byw'r freuddwyd” a'i fod yn diolch i'w gefnogwyr.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y cyn chwaraewr dros y Scarlets a’r Gweilch ei fod “eisiau rhoi gwybod y byddaf ar ddiwedd y tymor yn ymddeol”.

“I mi, dyma'r amser iawn. Rydw i wedi gallu byw’r freuddwyd oedd gen i’n blentyn am sawl tymor, gan chwarae gyda rhai o'r chwaraewyr, hyfforddwyr a'r staff gorau yn gefn i mi,” meddai.

“Nawr alla i ddim diolch digon i fy nheulu, fy ffrindiau a chi hefyd am y gefnogaeth rydych chi wedi'i dangos i mi dros y blynyddoedd.

“Mae wedi golygu'r byd i mi. Y bennod nesaf, ie, rwy'n dal i weithio ar honno, ond rwy'n gyffrous i weld ble mae'r daith honno'n fy arwain.

“Felly eto, o waelod fy nghalon, diolch.”

Fe wnaeth ymddeol o’r tîm rhyngwladol yn 2024 wedi 14 mlynedd yn chwarae dros dîm rygbi Gymru.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru pan oedd yn 18 oed.

North oedd y chwaraewr ieuengaf i ennill 100 o gapiau dros Gymru pan chwaraeodd yn erbyn Lloegr ym mis Chwefror 2021 yn 25 oed.

Mae wedi chwarae mewn pedwar Cwpan y Byd gan gyrraedd y rownd gynderfynol yn 2011.

Yn ystod ei yrfa, mae North, sydd yn gyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Bodedern, wedi ennill 120 o gapiau dros Gymru .Dim ond Alun Wyn Jones (168) a Gethin Jenkins (129) sydd wedi cynrychioli eu gwlad yn amlach.

George North sydd wedi sgorio’r ail nifer mwyaf o geisiau dros Gymru hefyd, wedi iddo sgorio ar 47 achlysur. Dim ond Shane Williams sydd wedi tirio’n fwy nag ef.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.