Dŵr Cymru yn cyflwyno ‘gwaharddiad ar bibellau dyfrio’ yn y gorllewin
Mae Dŵr Cymru yn cyflwyno gwaharddiad ar bibellau dyfrio ar draws canolbarth a de Ceredigion, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd sir Gaerfyrddin, ddydd Sadwrn.
Bydd y cyfyngiadau sydd meddai’r cwmni yn “fesur brys dros dro” yn dod i rym o 10:00 ddydd Sul.
Mae’r ardal o dan sylw yn cwmpasu ryw 33,000 eiddo sy’n ymestyn o Lan-non, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, draw i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Penfro, ac i mewn i rannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.
Mae’n dilyn cyfnod estynedig o alw uchel dros ben am ddŵr yfed, medden nhw.
“Disgwylir i’r niferoedd cynyddol o bobl sy’n dod ar eu gwyliau neu i ymweld â’r ardal wrth i dymor y gwyliau haf ddechrau ychwanegu pwysau pellach ar y rhwydwaith,” meddai’r cwmni.
Mae cyflenwadau dŵr yr ardal yn rhan o un parth cyflenwi dŵr sy’n cael ei wasanaethu gan ddau waith trin dŵr.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi gweld cyfnod estynedig o “alw digynsail”, gyda thua un biliwn litr o ddŵr yn cael eu rhoi i mewn i’r rhwydwaith cyflenwi pob dydd dros yr wythnos ddiwethaf.
Mae hynny tua 20% yn fwy na’r disgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Er bod yr adnoddau dŵr a lefelau’r cronfeydd yn dal i fod yn iach, yr her yw cynhyrchu, trin, storio a symud digon o ddŵr yfed trwy’r rhwydwaith yn ddigon cyflym i fodloni’r lefel “neilltuol o uchel” yma o alw.
‘Siom’
O dan y Gwaharddiad Dros Dro ar Ddefnydd, rhaid i gwsmeriaid beidio â:
- dyfrio gerddi gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- glanhau cerbydau modur preifat gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- dyfrio planhigion ar safle domestig neu anfasnachol arall gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- glanhau cychod hamdden preifat gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- llenwi neu gynnal pwll nofio neu bwll padlo domestig;
- tynnu dŵr at ddefnyddiau hamdden domestig gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- llenwi neu gynnal pwll domestig gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- llenwi neu gynnal ffynnon addurnol;
- glanhau waliau neu ffenestri eiddo domestig gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- glanhau llwybrau neu batios gan ddefnyddio pibell ddyfrio;
- glanhau arwynebau artiffisial awyr agored eraill gan ddefnyddio pibell ddyfrio.
Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson nad oedd y penderfyniad wedi ei wneud “ar chwarae bach”.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi y bydd y cyfyngiadau dros dro yma’n siomi rhai cwsmeriaid, yn arbennig mewn cyfnod o dywydd poeth,” meddai.
“Fodd bynnag, ar ôl sawl wythnos o alw digynsail, mae hi wedi dod yn angenrheidiol er mwyn helpu i amddiffyn cyflenwadau hanfodol.
“Mae ein timau wedi bod yn gweithio rownd y cloc gan gynyddu cynhyrchiant, symud dŵr o gwmpas ein rhwydwaith, defnyddio ein fflyd o danceri, a thrwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl.
“Rydyn ni eisoes yn defnyddio pob mesur gweithredol sydd ar gael i ni i gynnal cyflenwadau.
“Dros yr wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn rhoi mwy nag un biliwn litr o ddŵr yfed i mewn i’r rhwydwaith cyflenwi bob dydd - tua 20% yn fwy na’r disgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Mae ein cronfeydd dŵr yn dal i fod mewn sefyllfa digon iach, ond yr her yw cynhyrchu, trin a symud digon o ddŵr trwy’r rhwydwaith yn ddigon cyflym i gadw i fyny â lefel uchel estynedig a digynsail y galw.”
