Dulliau o fynd i’r afael â TB yn un arbrawf mawr, medd milfeddyg Clarkson’s Farm
Dulliau o fynd i’r afael â TB yn un arbrawf mawr, medd milfeddyg Clarkson’s Farm
Mae’r dulliau gwahanol o fynd i’r afael â TB mewn gwartheg yng Nghymru a Lloegr yn debyg i arbrawf mawr, yn ôl y milfeddyg o Gymru sy’n ymddangos ar raglen Clarkson’s Farm ar Prime Video.
Dywedodd Dilwyn Evans, sydd wedi gweithio fel ymgynghorydd milfeddygol ar fferm Jeremy Clarkson, Diddly Squat, yn ystod y pum cyfres gyntaf, fod angen gweithredu’n gyflymach i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.
Mae TB mewn gwartheg yn un o’r prif themâu yng nghyfres ddiweddaraf Clarkson’s Farm, ar ôl i’r fferm gael ei rhoi dan gyfyngiadau.
Evans, sy'n wreiddiol o Landdewi Brefi yng Ngheredigion, oedd y milfeddyg a brofodd y gwartheg yn y bennod a ryddhawyd ar Prime Video yn gynharach ym mis Mehefin.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Evans: “Fi’n credu, mewn ffordd, mae gyda ni experiment mawr ar hyn o bryd.
“Mae Lloegr yn trial un peth, mae Cymru’n trial peth arall, mae rhannau o Gymru’n trial peth arall.
“Bydd hi’n interesting i weld be sy’n mynd i ddigwydd i TB.
“Ond y broblem sydd gyda ni, os ydyn ni’n mynd i fod yn rhy araf yn neud rhywbeth ambyti ge, mae’r broblem yn mynd yn fwy o seis drwy’r amser.”
Dywedodd Mr Evans fod cyfyngiadau TB yn gallu cael effaith sylweddol ar allu ffermwyr i werthu gwartheg a chynllunio ar gyfer dyfodol eu busnesau.
“Pam mae pobl yn mynd lawr efo TB yw mae’r business plan yn mynd allan drwy’r ffenest,” meddai.
“Os chi eisiau gwerthu gwartheg pedigri, chi ddim yn gallu gwerthu gwartheg pedigri rhagor.
“Dyw pobl ddim eisiau prynu’r gwartheg achos maen nhw’n gwybod bod gyda chi TB.”
Symud gwartheg
Dywedodd fod symudiadau gwartheg rhwng ffermydd hefyd yn gallu lledaenu’r clefyd, a bod cyfrifoldeb ar ffermwyr i ystyried statws iechyd yr anifeiliaid maen nhw’n eu prynu.
“Mae’r moch daear yn cael y bai, ac mae fe’n ffactor,” meddai.
“Ond mae’n rhaid i ffermwyr hefyd edrych o le maen nhw’n prynu’r gwartheg.”
Dywedodd fod angen ystyried y dystiolaeth ynghylch pob dull o reoli TB mewn bywyd gwyllt, gan gynnwys brechu a difa moch daear.
Pan ofynnwyd iddo a ddylai Cymru ailystyried ei pholisi ar ddifa moch daear, dywedodd: “Fi’n credu bod e.”
Dywedodd fod polisi difa moch daear yn Lloegr wedi cael effaith gadarnhaol ar lefelau TB yno.
“Be mae’r data cyntaf sy’n dod allan yw bod llai o TB yn y gwartheg achos bod ni’n cael gwared â lot o foch daear," meddai.
Ond dywedodd hefyd fod tystiolaeth o Gymru yn awgrymu bod llai o TB mewn nythfeydd moch daear mewn ardaloedd lle mae rhaglenni brechu wedi cael eu cynnal.
Dywedodd Mr Evans fod rhoi gwybod i ffermwr fod TB wedi cael ei ganfod yn un o rannau anoddaf ei waith.
“Chi’n neud TB test, mae’r cwsmeriaid bron fel ffrindiau ni,” meddai.
“Ni’n siarad am sut mae’r tywydd, sut mae’r crops yn tyfu.
“Ac wedyn chi’n ffeindio buwch â TB - popeth yn dawel. Popeth yn dawel.
“S’dim byd allwch chi weud i ‘neud nhw deimlo’n well. Mae’r atmosffer yn newid yn gyfan gwbl.
“Dw i wedi gadael fferm a ffermwr yn llefain, achos doedd e ddim yn gallu gwerthu’r gwartheg pedigree rhagor.
“Mae fe’n emosiynol, hyd yn oed i fi fel milfeddyg. Mae’n galed.”
Dywedodd ei fod wedi gweld ffermwyr yn mynd o fod yn drist i fod yn ddig wrth i gyfyngiadau barhau.
“Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr sy’n cael TB fel ’na,” meddai.
“O fewn amser, mae pobl bron yn dod yn used i TB.
“Amser gwneud TB test, maen nhw’n disgwyl ffaelu a ddim yn disgwyl pasio.”
Profion
Yn ôl Mr Evans, mae’r prawf croen presennol yn canfod tua phedwar o bob pum anifail sydd â TB.
Dywedodd y gallai hynny olygu bod rhwng 20 a 30 o bob 100 o anifeiliaid sydd â’r clefyd yn gallu pasio’r prawf.
Mae profion cyn symud ac ar ôl symud anifeiliaid yn cynnig ail gyfle i ganfod y clefyd, meddai, ond nid ydynt yn gwbl ddibynadwy.
Dywedodd hefyd fod y brechlyn BCG presennol yn gallu effeithio ar ganlyniadau’r prawf croen.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai profion gwaed newydd yn y dyfodol yn gallu gwahaniaethu rhwng anifail sydd wedi cael ei frechu ac un sydd wedi’i heintio.
Ond dywedodd ei fod yn credu bod hynny’n debygol o fod “sawl blwyddyn” i ffwrdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod yr effaith sylweddol y mae TB mewn gwartheg yn parhau i’w chael ar ffermwyr, busnesau fferm a chymunedau gwledig ledled Cymru".
“Mae dileu’r clefyd hwn yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon, gan weithio mewn partneriaeth â ffermwyr, milfeddygon a rhanddeiliaid eraill tuag at sicrhau Cymru heb TB," meddai'r llefarydd.
“Rydym am i’n dull newydd fod yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, holistaidd ac yn seiliedig ar y tri philer: gwartheg, pobl a bywyd gwyllt, gan dynnu ar gyngor Bwrdd y Rhaglen a’r Grŵp Cynghori Technegol.”
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Jeremy Clarkson ei fod wedi cael triniaeth am ganser y prostad, a bod y canser bellach mewn cilhad.
Wrth gyfeirio at iechyd Clarkson, dymunodd Mr Evans yn dda iddo gan ddweud ei fod yn gobeithio y byddai’n parhau i wella.
Ychwanegodd ei fod wedi mwynhau gweithio gydag ef.
“Dw i’n joio gweithio gyda Jeremy," meddai. "Mae e’n dipyn o brofiad.
"Ar ddiwedd y dydd, dw i’n gwneud yr un gwaith, ond jest bod lot o bobl yn gwylio beth chi’n ei wneud.”
Dywedodd Mr Evans fod Clarkson’s Farm hefyd wedi helpu’r cyhoedd i ddeall mwy am fywyd ffermio a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant.
“Mae lot o bobl nawr yn gwybod lot am amaethyddiaeth oedd ddim yn gwybod dim o’r blaen,” meddai.
“Fi’n credu bod e wedi gwneud jobyn golew i ddangos pa mor galed yw hi fod yn ffermwr.”
Y bumed gyfres y rhaglen oedd yr olaf i Mr Evans fod yn rhan ohoni cyn iddo ymddeol yn gynharach eleni.