Donald Trump o dan y lach am ddylanwadu ar sefyllfa pennaeth cwmni Nvidia

Nvidia PA

Mae cwestiynau yn America am y rhan y chwaraeodd yr Arlywydd Donad Trump yn y newyddion syfrdanol fod Jensen Huang wedi dychwelyd i redeg cwmni Nvidia - a'r peryglon sydd wedi codi am ddiogelwch cenedlaethol y wlad o ganlyniad.

Roedd Huang wedi ymddiswyddo 11 diwrnod yn ôl o un o gwmnïau mwyaf gwerthfawr y byd, wedi iddo gael perthynas y tu allan i briodas.

Daeth yn amlwg yn fuan wedyn fod y ddynes yr oedd wedi cael perthynas gyda hi, Alice Huang (dim perthynas i Jensen Huang), gyda chysylltiadau agos gydag asiantaeth cudd-wybodaeth Tsieina.

Mae hi'n ddinesydd Tsieineaidd ac yn gyn-gyfarwyddwr ar Megaspeed, cwmni technoleg o Singapore sy'n ymwneud â chanolfannau data.

Roedd Megaspeed wedi bod yn gwsmer i Nvidia ers nifer o flynyddoedd.

Yn ôl adroddiadau yn y cyfryngau Americanaidd, fe ddaeth asiantaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau i'r casgliad bod Alice Huang wedi cael ei recriwtio gan Weinyddiaeth Diogelwch Gwladwriaethol Tsieina i gasglu gwybodaeth am Jensen Huang.

Yr amheuon yw mai dim ond cwmni mewn enw yn unig oedd Megaspeed - a'i fwriad drwy ddefnyddio Alice Huang i feithrin perthynas gyda Jensen Huang oedd i alluogi Tsieina i gael gafael ar y dechnoleg AI ddiweddaraf o America - rhywbeth sydd wedi ei wahardd.

Nid oes tystiolaeth gyhoeddus wedi'i chyflwyno bod Huang wedi rhannu cyfrinachau masnachol na gwybodaeth sensitif am ddiogelwch cenedlaethol.

Mae llywodraeth Tsieina wedi gwadu'r honiadau o ysbïo.

Rhybudd i'r Arlywydd

Mae Donald Trump o dan y lach achos yn ôl adroddiadau roedd wedi cael rhybudd clir mewn adroddiad gan y CIA fod pryderon am berthynas rhwng Jensen Huang a menyw oedd yn cael ei hamau o ysbïo ar ran Tsieina - ond fe ddewisodd anwybyddu'r rhybudd hwnnw.

Yn arwyddocaol, mae Trump wedi buddsoddi'n drwm yn Nvidia gyda'i arian ei hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae ei feirniaid yn dweud ei fod wedi dylanwadu'n drwm ar fwrdd cwmni Nvidia i sicrhau fod Jensen Huang yn dychwelyd i'w swydd, a hynny am resymau hunanol.

Dywedodd Trump ei fod wedi bod yn trafod "yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol" gyda bwrdd y cwmni am gael Huang yn ôl wrth y llyw.

Ymysg y Democratiaid, y pryder yw fod anallu Donald Trump i ymyrryd yn sefyllfa Jensen Huang pan glywodd am y wybodaeth gan y CIA wedi peryglu diogelwch cenedlaethol.

Er bod gwerth cyfranddaliadau Nvidia wedi codi'n sylweddol ar y marchnadoedd arian ers i Jensen Huang ddychwelyd i'r cwmni, fe allai Nvidia wynebu dyfodol ansicr gyda chymaint o wleidydda a dylanwad uniongyrchol yr Arlywydd wedi chwarae rhan mor ddylanwadol yn y sefyllfa.

Mae Nvidia yn gwmni sy'n werth tua $4.5 triliwn ac mae'n chwarae rhan allweddol yn natblygiad technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu sglodion cyfrifiadurol datblygedig sy'n hanfodol i'r diwydiant AI, mewn maes lle mae cyfrinachau masnachol yn hynod bwysig.

Gan fod yr Unol Daleithiau yn dibynnu ar dechnoleg Nvidia i gynnal ei mantais gystadleuol dros wledydd fel Tsieina, mae honiadau am berthynas bersonol pennaeth y cwmni wedi codi pryderon ynghylch diogelwch cenedlaethol.

Mae Donald Trump wedi amddiffyn Jensen Huang ers i'r adroddiadau am ei fywyd personol ddod i'r amlwg.

Wrth siarad â newyddiadurwyr yn flaenorol, disgrifiodd Trump Huang fel "person gwych" a "dyn anrhydeddus" sydd wedi gwneud "gwaith anhygoel" dros America.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.