Donald Trump yn cyrraedd Iwerddon ar ddechrau ymweliad deuddydd

Donald Trump a Catherine Connelly

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi cwrdd ag Arlywydd Iwerddon, Catherine Connolly, fel rhan o’i ymweliad deuddydd â’r wlad.

Fe wnaeth Mr Trump hefyd gwrdd â’r Taoiseach , Prif Weinidog Iwerddon, Micheál Martin yn Ystad Farmleigh.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyrraedd yng nghanol yr hyn a ddisgrifiwyd fel un o’r gweithrediadau diogelwch mwyaf a gyflawnwyd erioed gan heddlu Iwerddon (An Garda Síochána).

Gwrandawodd yr Arlywyddion Trump a Connolly ar anthemau cenedlaethol eu gwledydd yn Áras an Uachtaráin ym Mharc Phoenix, Dulyn.

Fe wnaeth Mr Trump gynnal arolygiad o’r gwarchodlu anrhydedd yno fel rhan o’r seremoni groeso.

Fe wnaeth Ms Connolly a gyhuddodd Mr Trump y llynedd o fod yn “ansefydlog” ac o “ymddwyn fel bwli” – gyflwyno dirprwyaeth Iwerddon a chyfarfod dirprwyaeth yr Unol Daleithiau, gan gynnwys rhai o aelodau teulu Mr Trump, fel ei fab Don Jr.

Yn ddiweddarach, bydd Mr Trump yn teithio ar draws y wlad i’w ganolfan golff yn Doonbeg, Sir Clare, sy’n cynnal Pencampwriaeth Agored Iwerddon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.