'Does ganddyn nhw ddim syniad': Ydi America yn barod am Gwpan y Byd?

'Does ganddyn nhw ddim syniad': Ydi America yn barod am Gwpan y Byd?

Gyda sylw’r byd yn troi at Gwpan y Byd, mae rhai Cymry sydd wedi ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau yn dweud bod prisiau tocynnau uchel yn golygu na fydden nhw’n gallu fforddio mynychu gemau yno.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd miliynau o gefnogwyr o bob cwr o’r byd yn teithio ar draws yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico i wylio’r gemau yn y bencampwriaeth.

Yn anffodus, ni fydd aelodau’r Wal Goch yn eu plith, ar ôl i Gymru golli yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn y gemau ail gyfle fis Mawrth.

Ond wrth i’r gwledydd sy’n cynnal y gystadleuaeth groesawu’r byd, mae nifer wedi mynegi pryder am gost mynychu’r gemau, gyda’r tocynnau rhataf i rai gemau yn costio dros $1,000 (£749.06).

Mae Jason Edwards, sy’n wreiddiol o Gaerwen, Ynys Môn, wedi byw yn America ers 13 mlynedd, ac wedi ymgartrefu yn Pittsburgh, Pennsylvania.

Mae’n gweithio fel hyfforddwr i dîm pêl-droed menywod Clarion, sy’n rhan o Brifysgol Pennsylvania Western, ac mae’n credu nad yw’r wlad eto yn deall mawredd yr achlysur i weddill y byd.

“Dwi’n meddwl fel diwylliant a paratoi tuag at unrhyw sporting event, mae America’n reit dda yn wneud hynna," meddai.

"Ond am y World Cup ei hun, dwi’m yn siŵr iawn os ydyn nhw’n cael y dealltwriaeth o pa mor fawr ydi o i’r byd, 'llu. Dwi’m yn siŵr iawn bo' nhw yn barod i.... barchu’r World Cup.”

Image
Mae Jason Edwards wedi bod yn brif hyfforddwr ar dîm pêl-droed menywod Clarion ers pedwar tymor
Mae Jason Edwards wedi bod yn brif hyfforddwr ar dîm pêl-droed menywod Clarion ers pedwar tymor

'Haws bod Cymru ddim yna'

Er mai Cwpan y Byd yw’r digwyddiad chwaraeon mwyaf y blaned yn fyd eang, pêl-droed Americanaidd, pêl-fasged, pêl-fas a hoci iâ sydd dal i hawlio sylw’r mwyafrif o bobl yn yr Unol Daleithiau.

“Mae ‘na lot bob tro’n mynd ymlaen yma,” ychwanegodd Jason.

“‘Da ni bron yn barod i orffan y basketball playoffs yn yr NBA, mae baseball dal i fynd ymlaen, felly mae’n wlad sy’n ymateb i’r stwff sy’n digwydd rŵan, so dwi’n meddwl fydd o’n reit anodd iddyn nhw i fod yn barod a rwbath arall achos mae 'na rwbath bob tro’n mynd ymlaen, 'llu.

“Pan fydd o’n dechrau, ella fydd na fwy o ddiddordeb 'llu, pan ma pethau’n mynd ymlaen – ond ar y funud, dwi ddim yn teimlo fel bod nhw’n barod, nadi.

“Dwi’n siŵr os ‘swn i’n gofyn i ngwraig i rŵan, neu fy mam a tad yng nghyfraith, fysa ganddyn nhw ddim syniad be da ni’n sôn amdano fo ar y funud.”

Mae’n dweud ei fod hefyd wedi diystyrru y posibilrwydd o deithio i wylio un o’r gemau mewn stadiwm, ar sail prisiau tocynnau i’r gemau.

“O’n i’n sbïo ar ticedi bore ma’, mae Philadeliphia ‘mond ryw bedwar awr drive o fi, ella meddwl neud day trip i weld un gêm. Ond mae’r prisiau yn ridiculous, ryw $1,200 i weld un gêm. 

“Da ni di arfer gwario $100-$150 i watchad NFL ond pan ti’n mynd i $800, $900 i watchad gêm pêl-droed, mae’n nuts.  Dwi’n meddwl bod y prisiau wedi sbwylio’r peth dipyn bach, felly ella bod o’n haws bod Cymru ddim ‘di neud o.”

Mae Prif Weinidog y DU, Keir Starmer, ac Arlywydd America, Donald Trump, ymhlith y rhai sydd wedi eisoes wedi dweud bod prisiau tocynnau’r gemau yn rhy uchel.

Ond mae Llywydd Fifa, Gianni Infantino yn dweud y bydd y refeniw o’r tocynnau yn cael eu hail-fuddsoddi “er mwyn tyfu’r gamp, ac nid oes unrhyw un arall yn gwneud hyn".

Image
Gruffydd Madoc-Jones
Gruffydd Madoc-Jones

‘Dathliad’

Fe symudodd Gruffydd Madoc-Jones, o Ffairfach ger Llandeilo, i Rio Grande, Ohio fis Ionawr i weithio yng Nghanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig.

Mae’n dweud mai mynd i fan zone yw’r unig opsiwn realistig iddo i gael blas o awyrgylch y gystadleuaeth.

“Nes i edrych ar y gwefannau, a’r tocynnau mwyaf rhad o falle fel $800," meddai.

"So, doedd dim modd meddwl am y peth rili, ond mae jyst cael y profiad o fod yn y lleoliadau ar y pryd yn ddigon i fi rili.

“Dwi yng nghanol y wlad yn Ohio yn bell iawn o'r dinasoedd yma sy'n cynnal y gemau gwahanol, ond yn ffodus mis nesaf, dwi'n cael cyfle i fynd i lawr i Houston ac i Dallas yn Texas.

Image
Cwpan y Byd

“Mae hwnna ar y penwythnos diwrnod annibyniaeth Unol Daleithiau America. Felly, bydd hwnna'n tipyn o ddathliad a siŵr o fod yn beth gofiadwy i weld dau ddathliad mawr ar yr un pryd yn y dinasoedd hynny a siŵr bydd e'n fwrlwm mawr ar y pryd.”

Er na fydd tîm Craig Bellamy yn cymryd rhan, mae Gruff yn awyddus i gefnogi dwy wlad sydd â chysylltiadau â Chymru.

“Oedd e’n rili siomedig. O’n i'n gwylio'n ofalus nôl ym mis Mawrth, ond ni jyst di colli i Bosnia a chwarae teg iddyn nhw am guro ni. A wnaethon nhw guro’r Eidal hefyd, so ma’ nhw'n haeddiannol o sbot nhw yn y Cwpan y Byd.

“O fy mhrofiad i'r llynedd, ro'n i'n gweithio ym Mhatagonia am flwyddyn. Felly’r Ariannin fi'n gobeithio ennill, am yr ail waith yn olynol. 

"A hefyd fi'n cefnogi'r Alban am fod nhw wedi qualifio am y tro cyntaf ers 1998. Felly, ie, ffordd o gefnogi'r Celtiaid.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.