Disgwyl i Keir Starmer ymddiheuro am achosion hanesyddol o fabwysiadu gorfodol
Mae disgwyl i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ymddiheuro’n ffurfiol i deuluoedd gafodd eu heffeithio gan achosion hanesyddol o fabwysiadu gorfodol.
Bydd yn gwneud yr ymddiheuriad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau, ar ôl cyfarfod ag ymgyrchwyr yn Downing Street.
Cafodd tua 185,000 o fabanod i famau di-briod eu mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr rhwng 1949 a 1976.
Mae mamau wedi disgrifio'u profiadau o gael eu rhoi dan bwysau i roi eu plant i’w mabwysiadu yn ogystal â'r trawma a’r cywilydd sydd wedi parhau am ddegawdau.
Galwodd Cydbwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol am ymddiheuriad gan y wladwriaeth yn 2022.
Daw’r ymddiheuriad dair blynedd ar ôl i Lywodraethau Cymru a’r Alban ymddiheuro i’r rhai gafodd eu heffeithio.
Dywedodd Diana Defries, cadeirydd presennol Movement for an Adoption Apology, y bydd yr ymddiheuriad yn achlysur “hynod deimladwy”.
Roedd hi newydd droi’n 17 oed pan gafodd ei merch ei mabwysiadu dan orfodaeth yn y 1970au.
Dywedodd nad yw rhai o’r mamau fu’n ymgyrchu am ddegawdau yn fyw i glywed yr ymddiheuriad, tra bod eraill bellach yn rhy fregus i fod yn bresennol.
“Mae’n wych eu bod nhw’n gwneud rhywbeth ac yn cydnabod yr anghyfiawnder hwn, ond mae mor drist na fydd y bobl fu’n gweithio’n ddiflino am gyfnod hir yn rhan ohono,” meddai.