Disgwyl i Andy Burnham alw am ddatganoli grym yn ei araith fawr gyntaf

Andy Burnham y tu allan i'w gartref yn Warrington
Andy Burnham y tu allan i'w gartref yn Warrington

Mae disgwyl i’r AS Llafur newydd, Andy Burnham gyflwyno ei agenda economaidd ddydd Llun yn ei araith fawr gyntaf ers cyhoeddi y bydd yn sefyll ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Bydd cyn-faer Manceinion yn defnyddio'r araith i alw am ddatganoli grym ac adnoddau ariannol yn sylweddol o San Steffan, yn ôl adroddiadau.

Bydd Mr Burnham yn cyflwyno cynlluniau i hybu twf economaidd drwy roi mwy o reolaeth i feiri rhanbarthol yn Lloegr dros dai cymdeithasol, lles ac addysg ôl-16, yn ôl papur newydd The Times.

Mae Mr Burnham sydd wedi bod yn gefnogwr brwd dros ddatganoli hefyd wedi dweud wrth y BBC yr wythnos diwethaf y bydd yn "rhoi Cymru a'r Alban wrth wraidd unrhyw lywodraeth y mae'n ei rhedeg".

Mae ei agenda yn adlewyrchu'r safbwyntiau a nododd yn ei lyfr Head North. Fe ysgrifennodd y llyfr ar y cyd â'i gyd-faer Steve Rotheram.

Yn y llyfr, dywedodd Mr Burnham fod y drefn bresennol yn golygu bod arweinwyr rhanbarthol yn gorfod mynd "ar eu gliniau" at San Steffan, gan alw am "ddull mwy cytbwys, lle byddai cynghorau a meiri hefyd yn cael rhywfaint o'r grym".

Os bydd Mr Burnham yn parhau i fod yr unig ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth ei blaid, mae disgwyl iddo symud i mewn i Downing Street ymhen tair wythnos.

Bydd enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cau ar 16 Gorffennaf. Os mai Mr Burnham yw'r unig ymgeisydd, bydd yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol yn arweinydd y Blaid Lafur mewn cynhadledd arbennig y diwrnod canlynol.

Ond yn ôl y drefn arferol, ni fydd yn dod yn Brif Weinidog ar unwaith, gyda'r trosglwyddiad yn digwydd ar y diwrnod gwaith nesaf, sef 20 Gorffennaf.

Pwy fydd yn aelodau o'i Gabinet?

Mae Mr Burnham yn parhau i ystyried pwy fydd yn aelodau o'i Gabinet.

Erbyn hyn mae'n ymddangos bod Rachel Reeves wedi derbyn na fydd yn parhau yn Ganghellor. 

Mae nifer o uwch weinidogion, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, a'r Ysgrifennydd Ynni, Ed Miliband, ymhlith y rhai sy'n cael eu hystyried i'w holynu, yn ôl adroddiadau.

Ond mae rhai undebau llafur wedi annog Mr Burnham i beidio â phenodi Mr Miliband yn Ganghellor, gan eu bod yn credu bod ei bolisïau net sero yn niweidiol.

Mae cwestiynau hefyd yn parhau ynghylch a fydd Ms Mahmood yn aros yn y Swyddfa Gartref. 

Mae rhai o fewn y Blaid Lafur yn dweud y dylai Mr Burnham roi'r gorau i'w chynigion i ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid i fewnfudwyr aros cyn gwneud cais am ganiatâd i aros yn y DU yn ddiamod.

Yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Dan Jarvis, yw aelod diweddaraf y Cabinet i ddatgan ei gefnogaeth yn gyhoeddus i Mr Burnham fel y Prif Weinidog nesaf.

Dywedodd Mr Jarvis, a oedd yn faer Rhanbarth Dinas Sheffield pan oedd Mr Burnham yn faer Manceinion, ei fod wedi "gweithio'n agos iawn" gydag e.

"Roedd yn faer eithriadol i Fanceinion ac rwy'n credu y bydd yn Brif Weinidog rhagorol," meddai.

"Mae'n deall pwysigrwydd diogelwch cenedlaethol a sicrhau bod gennym yr adnoddau cywir i fuddsoddi yn ein lluoedd arfog." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.