‘Dim dŵr na gwres ers dros fis’: Profiad dynes o Drawsfynydd ar ôl gwaith gan Consumer Energy Solutions
‘Dim dŵr na gwres ers dros fis’: Profiad dynes o Drawsfynydd ar ôl gwaith gan Consumer Energy Solutions
“Dwi ddim yn cysgu’r nos,” meddai Janice Jones o Drawsfynydd sydd wedi bod yn byw heb ddŵr poeth a gwres ers ddechrau Ionawr.
Mae hi’n dweud bod problem gyda’r boiler, a gafodd ei osod gan gwmni ynni o Abertawe ym Medi 2024.
Fe wnaeth Janice dderbyn system wresogi newydd, paneli solar a phwmp gwres gan Consumer Energy Solutions (CES).
Roedd Janice a’i phartner Kevin yn gymwys am y gwaith drwy gynllun ECO4 Llywodraeth y DU, am eu bod nhw’n derbyn budd-daliadau ac oherwydd eu cyflyrau iechyd.
Ers derbyn y gwaith ma Janice yn dweud bod y cwmni wedi achosi difrod i’r tŷ, ac ers 2 Ionawr does dim dŵr poeth na gwres.
“Os swni’n cael ffordd fy hun rŵan swni’n tynnu’r peth allan ynde," meddai. "Dwi’n difaru fy enaid i gymryd o, dwi yn.”
Fe wnaeth Janice gysylltu gyda’r cwmni yn y gobaith y bydden nhw’n trwsio’r system, ond ddiwrnodau yn ddiweddarach, ar 9 Ionawr, fe aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr.
“’Da ni di trio e-bostio a ffonio, yn amlwg da ni ddim yn cael atebion wan,” meddai Becky, merch Janice.
Ers dros fis mae Janice a Kevin wedi gorfod defnyddio dŵr o’r tegell i ymolchi, a hynny gyda Kevin yn derbyn triniaeth ar gyfer canser.
Mae’r teulu wedi cael cwôt o £500 gan blymar lleol er mwyn trwsio’r system a chael dŵr poeth a gwres.
“Does gan yr un o'na ni arian, s'dim pres i wneud dim byd wan, dim byd o gwbl, 'da ni’n dau ar benefits," meddai.
"’Da ni ddim yn gwybod be' ddiawl i neud.”
Ers mis Ebrill llynedd, maen nhw wedi bod yn nôl ac ymlaen gyda'r cwmni oherwydd problemau gyda’r system wresogi a bod y tŷ wedi ei adael mewn cyflwr gwael yn dilyn y gwaith, meddai.
“Oedd y cwmni wedi deutha ni sa ni cael dwr poeth 24/7, a da ni ddim di gal o," meddai.
“A ma’ nhw di gadael llanast. Dwi rhwng dau feddwl o’i werthu fo (y tŷ) a mynd o'ma wan de, dyna faint ma' nhw di mrifo fi.”
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau na fydd y cynllun ECO4 yr oedd Consumer Energy Solutions yn defnyddio yn parhau ar ôl 2026.
Mewn datganiad dywedodd gweinyddwyr Consumer Energy Solutions, KR8 Advisory, fod y cwmni wedi wynebu heriau mawr, a bod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio ymestyn cynllun ECO4 wedi gwneud y sefyllfa’n waeth.
Ychwanegodd: “Daeth pob gosodiad a ariannwyd gan ECO4 gyda gwarant wedi'i chefnogi gan yswiriant gan ddarparwr annibynnol.
"Yn dilyn trafodaethau gyda'r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, cytunwyd y byddai TrustMark yn adolygu unrhyw hawliadau cwsmeriaid sy'n weddill neu yn y dyfodol am waith sydd heb ei gwblhau neu waith diffygiol yn y lle cyntaf, ac yna'n rhoi cymorth i gwsmeriaid gyda’r camau nesaf.”
‘Sgandal’
Mae’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionydd, Liz Saville-Roberts, yn galw am ymchwiliad llawn i’r cwmni, wedi i dros 40 o bobl gysylltu â hi am CES.
“Mae o mor annheg, pwrpas y cynllun oedd gwresogi’ch tŷ, cael cartref cynnes, dŵr cynnes yn rhatach. Mae pobl wedi cael ei gadael i lawr,” meddai Ms Saville-Roberts.
“Mae’n rhaid i fi ddeud, ma’r ffaith bod gennom ni gymaint o bobl fregus wedi eu gadael gyda’u cartrefi, y gwaith ar y cartrefi heb ei orffen, cartrefi nhw yn oer - sgandal ydi hyn, mae o yn gwbl gwbl annerbyniol.
“Dwi’n meddwl bod 'na gwestiynau sylfaenol am y ffordd oedd y cwmni ma’ yn gweithio, y ffordd oedda’ nhw’n trin eu cwsmeriaid yn ogystal â’u gweithwyr nhw.”
Yn ôl cofnodion diweddaraf y cwmni o 2024, fe wnaethon nhw dros £35 miliwn mewn elw mewn cyfnod o flwyddyn.
“Mae 'na gwestiwn am yr elw oedda’ nhw yn neud," meddai Liz Saville-Roberts.
"Dwi wedi pwyso ar yr National Audit Office am ymchwiliad," meddai.
"Ma’ rhaid rŵan i ni gael trefn i fod yn asiant i helpu pobl i ddatrys y sefyllfa yma, gyda phobl fregus mae o yn gwbl annheg bod disgwyl iddyn nhw ddatrys hynny ei hunain."
Er y bydd cynllun ECO4 yn dod i ben mis Rhagfyr 2026, mae’r llywodraeth wedi lansio grant newydd, Cynllun Cartrefi Cynnes, gwerth 15 biliwn i daclo tlodi tanwydd ym Mhrydain.
Mewn datganiad dywedodd TrustMark: “Mae gwaith o ansawdd gwael yng nghartrefi pobl yn annerbyniol. Rydym yn gweithio ar frys gyda darparwyr cynlluniau’r llywodraeth, MCS ac ECO i sicrhau bod cwsmeriaid Consumer Energy Solutions yn cael eu cefnogi.
"Dylai unrhyw un sydd wedi cael gwaith wedi’i wneud gan CES o dan ECO neu gynllun a ariennir ac sy’n profi problemau, gysylltu â TrustMark. Byddwn yn eu helpu i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf priodol i ddatrys y broblem.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ofgem: “‘Mae’n annerbyniol bod pobl wedi cael eu gadael gydag inswleiddio sydd ddim i’w safon, sydd mewn rhai achosion wedi achosi problemau gyda lleithder a phroblemau eraill.
"Mae Ofgem yn cefnogi’r argymhellion ar gyfer DESNZ (Adran Sero Net a Diogelwch Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig), a nodir yn adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – ac rydym yn gweithio gyda’r adran i gefnogi cwsmeriaid, nodi risgiau twyll a rhannu gwybodaeth gyda’r awdurdodau perthnasol i gefnogi eu hymchwiliadau.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, Cwmni Mewn Creisis, nos Lun ar S4C, S4C Clic a BBC iplayer.
