'Dim ceiniog at annibyniaeth' meddai y Democratiaid Rhyddfrydol wrth gynnal eu cynhadledd
'Dim ceiniog at annibyniaeth' meddai y Democratiaid Rhyddfrydol wrth gynnal eu cynhadledd
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud y byddai yn sicrhau nad oes ceiniog yn cael ei wario ar “agenda annibyniaeth” os oes ganddi ddylanwad ar ôl etholiadau’r Senedd.
Mae’r blaid yn gobeithio denu pleidleiswyr sydd ddim eisiau Reform na Llafur ond sydd hefyd ddim eisiau annibyniaeth yn yr un modd a Phlaid Cymru a’r Blaid Werdd, meddai Jane Dodds.
Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod hi’n gobeithio sicrhau “dylanwad” dros lywodraeth nesaf Cymru ar ôl yr etholiadau ar 7 Mai.
“Bydd pob pleidlais dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn fodd o atal rhaniadau,” meddai.
“Yn erbyn ymgais Plaid i dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig. Yn erbyn ymgais Reform i droi cymdogion yn eu herbyn ei gilydd.
“A chyda chydbwysedd pŵer yn ein dwylo, byddwn yn sicrhau nad yw un geiniog o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei wastraffu ar yr agenda annibyniaeth.
“Yn lle hynny, bydd yn mynd lle mae ei angen ar bobl. I'n gwasanaeth iechyd, ein cymunedau a'n heconomi.”
‘Newid cyfeiriad’
Roedd etholiad y Senedd hefyd yn “gyfle i achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol” meddai’r blaid wrth iddyn nhw gynnal eu cynhadledd yng Nghaerdydd.
Mae’r blaid yn targedu Abertawe, Caerdydd, Powys a Cheredigion yn etholiadau’r Senedd, medden nhw.
“Ar ôl 26 mlynedd o lywodraeth Lafur, mae pobl ledled Cymru yn gallu gweld bod gwasanaethau cyhoeddus yn dioddef,” meddai Jane Dodds.
“Rhestrau aros y GIG [yng Nghymru] yw’r rhai hiraf yn unrhyw le yn y DU, ac mae cynghorau o dan bwysau cynyddol oherwydd bod gofal cymdeithasol dan bwysau mawr.
“Yr etholiad hwn yw ein cyfle i newid cyfeiriad ac achub ein GIG.
“Mae pob pleidlais i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn bleidlais i achub ein GIG a sicrhau’r newid y mae pobl ledled Cymru yn galw amdano.”
Fe wnaeth y blaid groesawu tri chynghorydd newydd ar drothwy'r gynhadledd.
Mae dau gynghorydd sy'n cynrychioli Uplands yn Abertawe, Sandra Joy ac Allan Jeffery, wedi ymuno â'r blaid ar ôl bod yn annibynnol.
Mae cynghorydd o Sir y Fflint, Fran Lister, hefyd wedi gadael Llafur i ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae cynghorydd annibynnol arall ym Mhowys hefyd wedi ailymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol.