Diffoddwyr tân o Bowys yn gwneud her i gofio'r rhai fu farw yn 9/11
Bydd diffoddwyr tân o Bowys yn cofio'r rhai fu farw yn ystod ymosodiadau 9/11 yn America drwy ddringo’r hyn sy’n cyfateb i 110 llawr, sef nifer y lloriau yn nhyrau Canolfan Masnach y Byd.
Eleni fe fydd hi'n 25 mlynedd ers i derfysgwyr hedfan dwy awyren i mewn i dyrau Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd ym mis Medi 2001.
Fe drawodd trydedd awyren bencadlys y Pentagon yn Washington DC. Fe wnaeth y bedwaredd awyren daro cae yn Pennsylvania ar ôl i deithwyr ar ei bwrdd geisio gwrthsefyll yr herwgipwyr.
Cafodd bron i 3,000 o bobl eu lladd, gan gynnwys tua 300 o ddiffoddwyr tân ac aelodau eraill o’r gwasanaethau brys.
Fe fydd 343 o ddiffoddwyr tân o Brydain yn teithio i Atlanta, America, i gofio'r rhai fu farw, gan gynnwys naw o Bowys.
Yn eu plith mae Stephen Ratcliffe, sy'n 58 oed ac yn rheolwr yng Ngorsaf Dân y Gelli Gandryll.
Dywedodd wrth wefan Powys County Times: “Rydw i wedi cyffroi ac wedi fy llethu o gael fy newis.”
Mae o wedi ymarfer ar gyfer yr her yn ddiweddar yn Southampton.
Fe fydd yn teithio i Georgia yn America ddydd Iau.
Bydd dau arall hefyd yn cymryd rhan, sef Oli Tziros a Becky Barden, o Orsaf Dân Llanandras.
Mae'r tri yn codi arian ar gyfer elusennau sy'n cefnogi gweithwyr y gwasanaethau brys a'u teuluoedd. Eu gobaith yw codi miloedd.
"Mae pob cam rydyn ni’n ei ddringo yn arwydd o barch, gan gofio’r rhai rydyn ni wedi’u colli, sefyll gyda’u teuluoedd a dangos undod â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau tân a brys ledled y DU a’r Unol Daleithiau," meddai Oli a Becky ar wefan JustGiving.
"Mae’r her hon hefyd yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl. Rydyn ni’n codi arian i dair elusen wych sy’n darparu gofal a chefnogaeth hanfodol i ddiffoddwyr tân a gweithwyr y gwasanaethau brys pan fyddan nhw ei angen fwyaf."
Llun: Stephen Ratcliffe, o'i dudalen JustGiving