Dyn yn euog o lofruddio y rapiwr Tupac Shakur ar ôl 30 mlynedd
Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddio Tupac Shakur ddydd Llun, bron i 30 mlynedd ar ôl marwolaeth y rapiwr yn Las Vegas yn 1996.
Roedd Shakur yn 25 oed pan fu farw. Roedd yn cael ei ystyried yn un o’r rapwyr mwyaf dylanwadol erioed ac mae’n parhau i ddenu cenedlaethau newydd o wrandawyr.
Ar ôl achos llys a barodd bron bythefnos, fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu yn unfrydol bod Duane ‘Keffe D’ Davis, 63 oed, yn euog o lofruddiaeth.
Roedd erlynwyr Clark County wedi dadlau bod Davis yn un o’r rhai oedd yn gwneud y penderfyniadau ar ran gang South Side Compton Crips yn Los Angeles.
Roedden nhw wedi dadlau ei fod eisiau dial ar Shakur ar ôl iddo ymosod ar nai Davis.
Doedd Davis ddim wedi’i gyhuddo o danio’r gwn. Ond o dan gyfraith Nevada, gall rhywun sy’n helpu person arall i gyflawni llofruddiaeth gael ei ddyfarnu’n euog o’r drosedd.
Davis yw’r unig berson sy’n dal yn fyw a oedd yn yr un car â’r dyn a daniodd y gwn 30 mlynedd yn ôl, yn ôl yr erlynwyr.
Roedd chwaer Tupac, Sekyiwa ‘Set’ Shakur, yn y llys i glywed y dyfarniad.
Gorchmynnodd y Barnwr Rhanbarth Carli Kierny fod Davis yn aros yn y carchar nes iddo gael ei ddedfrydu ar 13 Hydref.
Mae’n wynebu dedfryd oes ac mae wedi nodi ei fod yn bwriadu apelio.
Dywedodd y Dirprwy Brif Erlynydd Rhanbarth, Binu Palal, yn ei araith wrth gloi’r achos fod Davis wedi ‘mynd i hela’ Shakur y noson honno.
Roedd hynny ar ôl iddo gael ei weld yng Ngwesty’r MGM Grand yn curo Orlando ‘Baby Lane’ Anderson.
Roedd Anderson hefyd yn cael ei adnabod fel “tywysog” Compton yng Nghaliffornia oherwydd ei berthynas â Davis, meddai.