Diarddel Southampton o gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth am ysbïo
Mae Clwb Pêl-droed Southampton wedi cael eu diarddel o'r gemau ail gyfle ar ôl cyfaddef eu bod nhw wedi ysbïo ar dri chlwb yn ystod tymor y Bencampwriaeth.
Mae Clwb Pêl-droed Middlesbrough, a gollodd yn erbyn Southampton yn y rownd gynderfynol, wedi cael eu derbyn yn ôl i'r gystadleuaeth a byddant nawr yn herio Hull City am le yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae'r EFL wedi cyhuddo Southampton o wylio sesiynau hyfforddi rhwng Oxford United ac Ipswich Town, yn ogystal â ffilmio Middlesbrough wrth iddynt baratoi ar gyfer cymal cyntaf eu rownd gynderfynol yn y gemau ail gyfle ar 7 Mai.
Mae'r comisiwn disgyblu annibynnol hefyd wedi ddiddymu pedwar pwynt oddi ar Southampton yn y Bencampwriaeth ar gyfer y tymor nesaf.
O ganlyniad i gael eu diarddel, bydd Southampton yn colli’r cyfle i chwarae mewn gêm hollbwysig, gan y bydd enillwyr rownd derfynol y gemau ail gyfle yn sicrhau o leiaf £110 miliwn mewn refeniw darlledu gan yr Uwch Gynghrair.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn yn stadiwm Wembley, Llundain.
Yn ôl yr EFL, cyfaddefodd Southampton i "dorri nifer o amodau" yn ymwneud â ffilmio eu gwrthwynebwyr yn hyfforddi cyn gemau heb awdurdod.
"Cafodd Southampton eu cyhuddo gyntaf ddydd Gwener 8 Mai, gyda chyhuddiadau pellach yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul 17 Mai mewn cysylltiad â thorri rheolau ychwanegol yn ystod tymor 2025-26.
"Cododd y cyhuddiadau ychwanegol hynny o faterion a gafodd eu nodi ar ôl i'r achos cychwynnol yn ymwneud â Middlesbrough gael ei gychwyn.
"Fe wnaeth Southampton gyfaddef eu bod wedi torri rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i glybiau weithredu gyda'r ffyddlondeb mwyaf ac yn gwahardd arsylwi sesiwn hyfforddi clwb arall o fewn 72 awr i gêm.
"Mae'r toriadau yn ymwneud â gemau yn erbyn Oxford United ym mis Rhagfyr 2025 (colli 2-1), Ipswich Town ym mis Ebrill 2026 (gêm gyfartal 2-2) a Middlesbrough ym mis Mai 2026 (0-0 yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail gyfle)."
Cafodd Southampton eu hadrodd i'r EFL yn wreiddiol gan Middlesbrough yn dilyn honiadau fod aelod o staff y Seintiau wedi ysbïo ar sesiwn hyfforddi ar 7 Mai cyn eu rownd gynderfynol gemau ail gyfle, yn groes i reolau'r gynghrair, gyda'r EFL yn eu cyhuddo'r diwrnod canlynol.
Gall cefnogwyr Southampton sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer rownd gynderfynol y gemau ail gyfle gael ad-daliadau llawn.