Diagnosis hwyr o ADHD yn cael effaith negyddol ar les ac iechyd meddwl menywod

ITV Cymru
S4C

Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod diagnosis o ADHD yn hwyrach mewn bywyd yn gysylltiedig â mwy o broblemau iechyd meddwl ymysg merched a menywod ifanc.

Dangosodd yr astudiaeth bod pobl oedd wedi derbyn diagnosis yn hwyrach yn fwy tebygol o brofi pryder ac iselder, ac yn fwy tebygol o hunan-niweidio, o gymharu gyda phobl gafodd ddiagnosis cynnar. 

Roedd y cysylltiadau yma hefyd yn gryfach mewn menywod o’i gymharu â dynion. 

Dwedodd Dr Joanna Martin o Brifysgol Caerdydd mai nod yr astudiaeth oedd “mynd i afael â’r bwlch gwybodaeth” o amgylch diagnosis hwyr o ADHD mewn merched a menywod.

“Mae ADHD yn llai tebygol o gael ei ddiagnosio mewn merched na bechgyn, yn rhannol oherwydd diffyg cydnabyddiaeth. Mae hyn yn eu gadael heb ymyriadau a chefnogaeth gynnar, a’u gwneud yn fwy agored i risgiau cynyddol o ddatblygu problemau iechyd meddwl amrywiol,” meddai.

Ar gyfartaledd mae menywod yn derbyn diagnosis o ADHD bum mlynedd yn hwyrach na dynion. 

Mae’r gantores Bronwen Lewis wedi rhannu sut y gwnaeth diffyg diagnosis o ADHD yn ifanc arwain at iddi deimlo'n bryderus iawn, ac yn aml yn beio ei hun am fethu ag ymdopi mewn sefyllfaoedd gwahanol. 

“O ni yn teimlo mor wael am flynyddoedd. O ni ar antidepressants, o ni meddwl bod iselder neu anxiety gen i. Oeddwn ni yn berson rili pryderus.

“Ti’n dechre rhoi’r bai ar dy hun, yn meddwl ‘fi yw’r un twp, fi yw’r un sydd methu gwneud hwn’. Mae’r imposter syndrome yn dod i mewn.” 

'Proses o alaru'

Fe gafodd Bronwen ddiagnosis yn 28 oed, ar ôl mynd yn breifat o ganlyniad i restrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd.

"Ar ôl derbyn y diagnosis, nath y jigsô just gwneud synnwyr wedyn.”

Mae derbyn diagnosis wedi ei helpu i roi strwythurau mewn lle i’w helpu gyda'i symptomau, ond mae hi yn galaru'r amser ble nad oedd diagnosis ganddi.  

“Mae 'na broses o alaru ar ôl y diagnosis, achos mae blynyddoedd wedi mynd heibio heb i fi wybod pam bod fi yn delio gyda bywyd mewn ffordd mor chaotic, mor annisgwyl, mor anodd.

“Dwi’n galaru dros yr amser yna dwi wedi colli wrth feddwl bod fi yn dwp, meddwl bod fi yn ofnadwy, a pheidio deud ie i rai profiadau, achos oeddwn ni yn ofn y symptomau, a meddwl bod fi ffeili gwneud rhywbeth.

“Fi just yn teimlo yn wael dros y ferch fach yna oedd ddim yn gwybod beth oedd yn bod gyda hi.”

Mae hi yn hapus i weld rhagor o gydnabyddiaeth o amgylch y cyflwr, a bod merched ifanc yn enwedig yn derbyn diagnosis yn fwy ifanc. 

“Wrth weld merched yn cael diagnosis yn chwech, saith ag wyth oed, dwi’n meddwl bod gyda nhw'r head start yna mewn bywyd nawr a does dim rhaid iddyn nhw deimlo mor wael ag oeddwn i yn teimlo.

“Dwi yn teimlo yn wael iawn am y menywod sydd wedi gadael y byd yma achos oedden nhw yn meddwl mai iselder oedd e. Oedden nhw yn meddwl oedden nhw ffeili weithio yn y byd yma.”

Image
Stef Cook
Stef Cook

Roedd Stef Cook o Ddolgellau yn 31 oed cyn derbyn diagnosis o ADHD ac Awtistiaeth yn gynharach eleni. 

Mae’n dweud bod cael diagnosis wedi bod yn “rhyddhad mewn sawl ffordd.”

“O’r diwedd mae gen i esboniad am lawer o’r pethau roeddwn i wedi cael trafferth gyda nhw ers blynyddoedd.”

Cyn derbyn diagnosis o ADHD, roedd hi wedi derbyn diagnosis o bryder ac iselder gan nad oedd ei symptomau wedi eu deall yn iawn. 

“Roeddwn i wedi cael fy rhoi ar wahanol fathau o anti-depressants nad oedd yn gwneud llawer o wahaniaeth. 

“Roeddwn i hefyd wedi gorfod cymryd llawer o amser i ffwrdd o’r gwaith, ac roedd hynny’n aml yn cael ei rhoi lawr i straen, orbryder neu iselder. 

“Nawr, wrth edrych yn ôl, mae’n debyg bod llawer o’r anawsterau hynny yn gysylltiedig â’r ADHD a'r Autism heb ei ddiagnosio.”

Dywedodd bod byw heb ddiagnosis wedi effeithio ar ei hunan-barch a hyder.

“Pan mae rhywun yn treulio blynyddoedd yn meddwl mai nhw eu hunain yw’r broblem, mae’n arwain at deimladau o fai neu gywilydd am bethau sydd, mewn gwirionedd, yn gysylltiedig â sut mae eu hymennydd yn gweithio.

“Mae’r cael diagnosis o’r diwedd wedi bod yn gymysg iawn. Mae cael atebion o’r diwedd wedi bod yn rhyddhad mawr a dwi ddim yn gorfod masgio gymaint ddim mwy, ond ar yr un pryd rwyf hefyd wedi mynd trwy gyfnod o alaru mewn ffordd.

“Rwyf wedi meddwl llawer am y gefnogaeth y gallwn i fod wedi’i chael dros y blynyddoedd os fyswn i wedi gwybod yn gynt. Mae hynny weithiau’n gwneud i mi feddwl sut fyddai pethau wedi bod yn wahanol neu’n haws.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.