Dewi Llwyd yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o ddarlledu

Dewi Llwyd

Mae'r newyddiadurwr, y cyflwynydd a'r darlledwr Dewi Llwyd wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol ar ôl 46 mlynedd gyda'r BBC. 

Ar hyd y blynyddoedd, mae Dewi wedi darlledu ar rai o brif ddigwyddiadau gwleidyddol y wlad, ac wedi cyflwyno rhaglenni canlyniadau 10 Etholiad Cyffredinol, etholiadau Senedd Cymru a phedwar refferendwm.

Mae wedi cyhoeddi bellach mai rhaglen ganlyniadau etholiad y Senedd ar BBC Radio Cymru fydd ei olaf, ac fe fydd yn cyflwyno Dros Ginio am y tro olaf ar 22 Mai.

Ymunodd Dewi Llwyd â'r gorfforaeth ym 1979, a'r rhaglen etholiad cyffredinol ym 1983 oedd yr un gyntaf iddo ddarlledu drwy'r nos, sef rhaglen etholiad gyntaf S4C.

Mae wedi bod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys cyhoeddi canlyniad 'Ie' i ddatganoli ym 1997, a chanlyniad Brexit yn 2016. 

Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Dewi wrth y BBC: "Wrth adael y BBC ar ôl 46 o flynyddoedd mae rhywun yn teimlo mor ddiolchgar am bob cyfle a gafwyd wrth gyflwyno llu o raglenni gwahanol, wrth ohebu o bedwar ban byd, ac wrth gael darlledu ar radio a theledu.

"Fyddai hyn oll ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth cenedlaethau o gydweithwyr ardderchog."

Ychwanegodd: "Ond mae dwy garfan arall y mae'n rhaid diolch iddyn nhw hefyd.

"Mi fydda i'n sicr o weld colli'r holl bobl huawdl a gwybodus yr ydw i wedi cael y fraint o'u holi ar hyd y degawdau.

"Ond fyddai yna ddim rhaglenni o gwbl heb y gynulleidfa sydd wedi aros mor deyrngar, yn wylwyr ac yn wrandawyr, ynghyd â'r miloedd o bobl y bûm mor ffodus o'u cyfarfod wrth baratoi rhaglenni fel Newyddion, Pawb a'i Farn, Hawl i Holi a Bore Sul."

'Gyrfa eithriadol'

Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru: "Ar ran BBC Cymru, hoffwn longyfarch Dewi yn gynnes wrth iddo gyhoeddi ei ymddeoliad ar ddiwedd gyrfa eithriadol. Bu'n angor cadarn ar raglenni newyddion, gwleidyddiaeth, etholiad, eisteddfod a llawer iawn mwy.

"Dros y degawdau bu'n gwmni cynnes ac yn bresenoldeb awdurdodol ar sgrin S4C ac ar donfeddi BBC Radio Cymru – gyda un o leisiau gorau ei genhedlaeth! Dymunwn bob hapusrwydd iddo ar gyfer y bennod nesaf."  

Dywedodd Delyth Isaac, Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru: "Mae wedi bod yn fraint enfawr gweithio ochr yn ochr â Dewi Llwyd dros gynifer o ddegawdau. 

"Trwy gyfnodau tyngedfennol yn hanes gwleidyddol Cymru a thu hwnt, bu’n arwain cynulleidfaoedd gyda’r awdurdod a’r gofal sydd wedi nodweddu ei yrfa, gan helpu’r genedl i lywio newidiadau mawr a deall eu harwyddocâd.

"Mae’n teimlo’n gwbl briodol ei fod, ar drothwy ei ymddeoliad, yn cyflwyno rhaglen ganlyniadau Etholiad Senedd 2026 ar BBC Radio Cymru a BBC Sounds, pan mae Cymru’n wynebu un o’i hetholiadau mwyaf cyffrous ers datganoli."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.