Dedfrydu dyn o Fôn ar ôl ymosod yn rhywiol ar swyddog heddlu

Llys Ynadon Llandudno
Mae dyn 49 oed o Fôn wedi cael dedfryd o garchar wedi'i ohirio ar ôl ymosod yn rhywiol ar swyddog heddlu ar ddyletswydd.
 
Ymddangosodd Jason Fen Hender, o Ger y Winllan, Llangefni, yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun 7 Medi wedi’i gyhuddo o ymosodiad rhyw a bod â chocên yn ei feddiant.
 

Ar 5 Medi, daeth dau swyddog a oedd ar batrôl yn Llangefni ar draws gwrthdaro ar y stryd a oedd yn peryglu aelodau eraill o’r cyhoedd.

Llwyddodd y swyddogion i dawelu’r sefyllfa, ond yna fe wnaeth Hender ymosod yn rhywiol ar un o’r swyddogion.

Cafodd ei arestio a’i ganfod â chocên yn ei feddiant.

Fe wnaeth Hender gyfaddef y troseddau ac fe gafodd ei ddedfrydu i 30 wythnos o garchar, wedi’i ohirio am 18 mis.

Cafodd ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw hefyd, a bydd yn rhaid iddo gofrestru gyda’r heddlu am 10 mlynedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.