Syr Tom Jones yn dweud ei fod wedi colli ei swydd ar gyfres The Voice

Tom Jones (ITV)

Mae Syr Tom Jones yn dweud bod ITV wedi penderfynu na fydd yn parhau fel hyfforddwr ar gyfres The Voice.

Mae’r canwr 86 oed o Drefforest wedi bod yn rhan o’r gyfres ganu boblogaidd ers iddi gael ei lansio yn 2012.

Mae adroddiadau yn y wasg yn awgrymu fod ITV wedi penderfynu na fydd yn parhau fel un o bedwar hyfforddwr yn y gyfres nesaf, gan gynnig rôl wahanol iddo.

Wrth ymateb i’r adroddiadau ar ei gyfrif Instagram ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones:

“I fod yn glir, doeddwn i ddim eisiau gadael The Voice gan fy mod yn caru’r sioe ac yn gwerthfawrogi’r gynulleidfa’n fawr.

“ITV wnaeth y penderfyniad – sbel yn ôl, mae'n debyg, ac fe gefais wybod yn ddiweddar. Y rheswm a roddwyd oedd bod yna heriau ariannol yn ymwneud ag yswiriant.”

Ychwanegodd: “Maen nhw nawr yn dweud yn y wasg eu bod eisiau 'adnewyddu' y sioe, gyda thîm o hyfforddwyr newydd sy'n golygu na fyddai 'na gadair i mi.

“Maen nhw’n cynnig rôl sydd wedi’i gyfyngu’n fawr lle y byddwn i’n ymddangos ond heb fod yn rhan o'r broses o’r dechrau, ac dydw i ddim yn rhy hapus am hynny.

“Felly'r unig beth rwy’n gwybod nawr, yw nad oes byth amser da i ddiswyddo person 86 oed sydd dal yn eithaf da yn ei swydd.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu ag ITV i ofyn am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.