Dedfrydu dyn am drywanu ei bartner deirgwaith tra ar wyliau yn Sir Ddinbych
Mae dyn 27 oed wedi cyfaddef iddo drywanu ei bartner deirgwaith tra roedd hi’n cysgu, ar ôl iddo gymryd cocên a nwy chwerthin ar wyliau teulu.
Cafodd Jake Cooper o Timperley Close, Oldham, ddedfryd o dair blynedd o garchar wedi’i gohirio am dair blynedd ar ôl i’r dioddefwr erfyn ar y barnwr i fod yn “drugarog”.
Dywedodd y Cofnodwr Llys Greg Bull CB: “Mae hi’n faddeugar iawn”.
Cyfaddefodd Cooper iddo glwyfo Leah Worthington gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol ym mharc gwyliau Presthaven Sands yng Ngronant, Prestatyn, ar 16 Mai.
Treuliodd Ms Worthington wyth diwrnod yn yr ysbyty ar ôl cael ei thrywanu yn ei chefn a’i braich.
Dywedodd Greg Bull wrth y llys: “Rwy’n fodlon bod y drosedd hon yn rhannol o ganlyniad i gyflwr eich iechyd meddwl ar y pryd.
“Er hynny, roedd hon yn drosedd eithriadol o ddifrifol. Gallech fod wedi lladd Miss Worthington” meddai.
“Roeddech yn feddw ac o dan ddylanwad cyffuriau,” ychwanegodd.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod ymosodiad ar Cooper yn 2022 wedi cael effaith sylweddol arno ac wedi achosi iddo ddioddef o baranoia.
Cafodd Cooper orchymyn i ymatal rhag alcohol a chyffuriau am flwyddyn a bydd yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn cadw at y gorchymyn.
Bydd yn gorfod cadw at gyrffyw rhwng 20:00 a 08:00 am chwe mis a gwneud 200 awr o waith di-dâl.
“Peidiwch â’m gadael i lawr,” meddai’r barnwr wrth Cooper.
Llun: Google