Dedfryd wedi'i gohirio i ddyn am achosi marwolaethau dau berson ifanc yn Sir Gâr

Adam a Katie

Mae gyrrwr a achosodd farwolaethau dau berson ifanc drwy yrru yn ddiofal yn Sir Gâr wedi cael dedfryd 16 mis yn y carchar wedi ei gohirio. 

Cafodd Alexander MacCallum, 28 oed, o Ddoc Penfro, hefyd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis. 

Bu Katie Worrell, 25 oed, ac Adam Muskett, 27 oed, farw o’u hanafiadau wedi gwrthdrawiad ar 13 Mehefin 2024.

Fe wnaeth MacCallum gyfaddef yn flaenorol i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru yn ddiofal yn Llys y Goron Abertawe ar 9 Chwefror eleni.

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd am 15:50 ar 13 Mehefin 2024.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Jaguar du a Ford Fiesta du ar yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch.

Fe wnaeth y Jaguar golli rheolaeth mewn amodau gwlyb cyn croesi'r ffordd a gwrthdaro â Ford Fiesta oedd yn cael ei yrru gan Adam Muskett, gyda'i bartner Katie Worrell, hefyd yn teithio yn y car. 

Bu farw Adam yn y fan a'r lle, ac fe gafodd Katie ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol lle y bu farw yn ddiweddarach ar yr un diwrnod.

Mewn datganiad, dywedodd teulu'r ddau: "Rydym yn cydnabod dedfryd y llys, ond nid oes dedfryd a fydd byth yn dod â'n plant a'n brodyr a'n chwiorydd yn ôl. Rydym yn gwerthfawrogi gwaith Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau euogfarn.

"Roedd marwolaethau Adam a Katie yn ddiangen, pe na bai'r diffynnydd wedi gyrru ei gar yn y modd y gwnaeth, bydden nhw dal gyda ni."

Ychwanegodd Lucy Brookes, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Yn dilyn marwolaethau trasig Adam a Katie, cafodd ymchwiliad llawn ei lansio i'r gwrthdrawiad, ac ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynwyd bod dull gyrru MacCallum yn amhriodol ar gyfer yr amodau tywydd gwael iawn.

"Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hir i ddigwyddiad a wnaeth arwain at farwolaethau dau berson ifanc. Er na all unrhyw beth ddadwneud y golled, y gobaith yw fod dedfryd heddiw yn mynd rhywfaint o'r ffordd i sicrhau cyfiawnder i'w hanwyliaid, sydd wedi dangos cryfder anhygoel drwy gydol y broses hon. Mae ein meddyliau'n parhau'n fawr gyda nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.