Dau wedi marw ar ôl i gar oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddu daro car arall

LeedsPA

Mae dau berson wedi marw ar ôl i gar oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu daro cerbyd arall yn Leeds.

Dechreuodd yr heddlu ddilyn y car am 00.44 fore dydd Sul, ar ôl i gar BMW 123D glas fethu â stopio i gar yr heddlu ar Ffordd Gelderd yn y ddinas, yn ôl Heddlu Gorllewin Sir Efrog.

Yna fe wnaeth y BMW daro Volkswagen Scirocco gwyn, a oedd yn troi i mewn i Ffordd Gelderd o Ffordd Lowfields.

Bu farw gyrrwr y Volkswagen - dyn 22 oed o Efrog - yn y fan a’r lle. 

Fe wnaeth teithiwr yn yr un car - menyw 23 oed oedd hefyd o Efrog - wedi marw yn yr ysbyty ychydig yn ddiweddarach.

Cafodd dyn 39 oed o Harrogate, Gogledd Sir Efrog, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac o yrru tra'r oedd lefel y canabis yn ei gorff yn uwch na’r terfyn cyfreithiol. 

Mae’n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Cafodd tri unigolyn arall oedd yn y BMW - dau fachgen 16 ac 17 oed a merch 16 oed - i’r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau nad oeddent yn peryglu bywyd.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.