Dau forlo bach a gafodd eu hachub yng Nghymru yn derbyn gofal arbenigol
Mae dau forlo bach o Gymru wedi eu hachub ac yn derbyn gofal arbenigol mewn canolfan achub bywyd gwyllt yn Lloegr.
Cafodd y ddau genau bach eu hachub o draethau yng Ngheredigion ac Ynys Môn, ac maen nhw bellach yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Stapeley Grange yr RSPCA yn Nantwich, Swydd Gaer.
Mae'r ddau ymhlith pump o genawon bach a gafodd eu gwahanu oddi wrth eu mamau ac sydd bellach yn derbyn gofal yn y ganolfan.
Mae'r elusen wedi penderfynu enwi'r anifeiliaid ar ôl sêr pop eleni, gyda'r ddau o Gymru yn cael eu galw'n Pink a McFly.
Cafodd Pink ei hachub o draeth Llanrhystud yng Ngheredigion gan wirfoddolwyr British Divers Marine Life Rescue, ar ôl iddyn nhw ei monitro am dri diwrnod a chadarnhau ei bod wedi ei gwahanu oddi wrth ei mam.
Yn fwy diweddar, cafodd McFly ei hachub o draeth Porth-isallt ar Ynys Gybi, Ynys Môn.
Mae cenau bach arall, o'r enw Abba, hefyd wedi cyrraedd y ganolfan ar ôl cael ei chanfod yn Afon Dyfrdwy yn Swydd Gaer.
Mae tymor geni morloi llwyd, sy'n para drwy fis Hydref a mis Tachwedd, yn gyfnod prysur i'r ganolfan, yn ôl yr elusen.
Dywedodd Lee Stewart, Rheolwr RSPCA Stapeley Grange: “Mae tymor geni morloi llwyd yn gyfnod prysur o’r flwyddyn i’n staff.
"Mae morloi sydd wedi colli eu mamau yn agored iawn i niwed ac mae angen llawer iawn o ofal arbenigol arnynt."
Ychwanegodd fod y morloi fel arfer yn treulio tua thri mis yn y ganolfan cyn cael eu rhyddhau'n ôl i'r môr, yn agos at y mannau lle cafodd eu canfod.
Mae'r RSPCA hefyd yn atgoffa'r cyhoedd nad yw gweld cenau bach ar ei ben ei hun ar draeth o reidrwydd yn golygu ei fod mewn trafferth.
Mae mamau'n aml yn gadael eu rhai bach ar y traeth wrth fynd i'r môr i fwydo.
Mae'r elusen yn cynghori pobl i gadw pellter, peidio â cheisio symud y morloi, a chysylltu ag arbenigwyr os ydyn nhw wedi'u hanafu neu mewn trafferth.
Llun: McFly a Pink, y dau forlo a gafodd eu hachub yng Nghymru
