Dau ddyn wedi marw ar ôl disgyn mewn i danc silwair ar ffarm yn Sir Gaer
Mae dau ddyn wedi marw ar ôl disgyn mewn i danc silwair (silage) ar ffarm yn Sir Gaer.
Dywedodd Heddlu Sir Gaer eu bod nhw wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar ffarm ar Cann Lane yn Aston by Budworth, ger Warrington tua 12:20 ddydd Mercher.
Roedd yr heddlu, gwasanaeth tân a gwasanaeth ambiwlans wedi cyrraedd a darganfod fod dau ddyn wedi disgyn mewn i danc silwair diwydiannol.
Cafodd y ddau ddyn 72 a 42 oed eu symud o'r tanc gan y gwasanaethau brys, ond roedd y dynion wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae eu teulu wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddarganfod amgylchiadau'r digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu bod y teulu yn gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.