Dau ddyn ifanc o Faldwyn yn codi £7,000 ar ôl cwblhau her gneifio 24 awr

Dau ddyn ifanc o Faldwyn yn codi £7,000 ar ôl cwblhau her gneifio 24 awr

Mae dau ddyn ifanc o Faldwyn wedi cwblhau her gneifio 24 awr, gan godi mwy na £7,000 i ddwy elusen ar ôl i aelodau o'u teuluoedd farw o ganser.

Fe wnaeth Iwan Hughes, 22 oed, ac Ollie Morgan, 24 oed, o Benybont Fawr, gneifio 3,282 o ddefaid yn ystod yr her.

Roedd yn rhaid i'r trefnwyr ddod o hyd i ragor o ddefaid fore Sadwrn oherwydd eu bod yn cneifio mor gyflym.

Penderfynodd y ddau roi'r arian i Macmillan ac i Sefydliad DPJ, elusen a sefydlwyd ar ôl i ffermwr ifanc o Sir Benfro farw drwy hunanladdiad.

Bu farw ewythr Ollie, Carl, o ganser, a bu farw taid Iwan, Hywel, o'r afiechyd hefyd.

“Llynedd ddaru fi colli fy ewythr, Carl i canser, a wedyn o’n i’n meddwl jyst trio neud rhywbeth i roi nôl i Macmillan ddaru helpu auntie fi allan,” meddai Ollie wrth Newyddion S4C cyn dechrau'r her.

Ychwanegodd Iwan: “‘Den ni’n dau ‘di colli rhywun agos iawn i ni efo canser.

“So ni jyst ‘di penderfynu cneifio am 24 awr i hel cymaint o bres â posib rili.”

Mae gan y ddau gryn brofiad ym myd cneifio.

Fe wnaeth Ollie dreulio cyfnod yn Seland Newydd yn cneifio ac yn ffermio.

Mae'r ddau hefyd wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau cneifio lleol.

Yn ystod yr her, fe lwyddodd Ollie i gneifio 1,572 o ddefaid, tra bod Iwan wedi cneifio 1,710.

Gyda'i gilydd, fe wnaeth y ddau gneifio cyfanswm o 3,282 o ddefaid.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.