'Dathliad o greadigrwydd y Cymoedd': Amgueddfa Cymru yn dathlu gallu creadigol pobl ifanc Cymoedd De Cymru

ITV Cymru

'Dathliad o greadigrwydd y Cymoedd': Amgueddfa Cymru yn dathlu gallu creadigol pobl ifanc Cymoedd De Cymru

Mae arddangosfa newydd Amgueddfa Cymru, ‘Ffasiwn’, yn ddathliad o brosiect It’s Called Ffasiwn gan y ffotograffydd, Clémentine Schneidermann, a’r cyfarwyddwr creadigol o Ferthyr, Charlotte James.

Cafodd y gwaith ei greu dros gyfnod o 10 mlynedd, ac mae’n cynnwys pobl ifanc o Ferthyr Tudful a Blaenau Gwent.

Yn ôl Sean Kenney, Uwch Swyddog Addysg Amgueddfa Cymru, amcan yr arddangosfa yw cynnig portread newydd o’r Cymoedd drwy ddathlu creadigrwydd a’r bobl ifanc yno.

“Mae’n dangos sut mae gwaith cymunedol yn gallu datblygu dros amser. Mae’n dangos y creadigrwydd sydd yn bodoli o fewn y cymunedau yna, a faint o gydweithio sydd yn digwydd yno,” meddai.

Un o brif themâu'r gwaith yw archwilio syniadau ynglŷn â phwy sydd yn ymddangos o fewn y byd ffasiwn.

“Mae gwaith ffasiwn yn aml yn cael ei gysylltu â’r dinasoedd mawr, fel Llundain neu Paris. ‘Dyw pobl ddim yn cysylltu gwaith fel hyn gyda’r Cymoedd, ac mae hynna yn rhan fawr o’r gwaith,” meddai. 

“Mae’n dangos bod creadigrwydd yn bodoli ym mhob cymuned, ar draws y wlad, nid yn unig yn y dinasoedd mawr.”

Image
itv2.jpg

Yn ogystal ag ymddangos yn y lluniau, roedd y bobl ifanc gafodd eu portreadu hefyd yn cael cyfle i weithio gyda Clémentine a Charlotte i greu rhai o’r dillad a’r setiau. 

I Carys Tudor, Curadur Cynnwys Digidol yr Amgueddfa, mae’r arddangosfa yn “chwa o awyr iach” ac yn rhoi pwyslais ar leisiau a chymunedau tangynrychioledig. 

“Rydyn ni eisiau cynrychioli cymaint o leisiau pobl Cymru â phosib. Mae’r arddangosfa yn gyfle gwych i roi llwyfan i leisiau a’r straeon yna o’r Cymoedd.”

Ychwanegodd Sean ei bod hi’n “holl bwysig” i roi’r platfform yma i leisiau tangynrychioledig.

“Mae’n enfawr, iddyn nhw fel pobl ifanc ac fel cymuned, bod eu llais yn cael ei glywed ar lwyfan cenedlaethol drwy’r amgueddfa.” meddai. 

Mae Carys hefyd yn egluro sut mae’r gwaith yn helpu i gynnal y sector greadigol yng Nghymru drwy roi profiadau i bobl ifanc. 

“Roedd y prosiect yn gyfle i’r bobl ifanc greu darnau newydd o ffasiwn. Roedd gweithdai gwnïo, creu setiau a chreu ffotograffau hefyd yn rhan o’r profiad i bobl ifanc," meddai.

"Felly mae’n ffordd o gynnal y sector greadigol yng Nghymru, ac yn bennaf yn y Cymoedd.

“Gweld sut mae’r bobl ifanc wedi datblygu eu sgiliau yw un o uchafbwyntiau a llwyddiannau’r prosiect. Mae’r bobl ifanc yn cael gweld y sector greadigol yng Nghymru a pha fath o yrfa sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol.”

Mae Carys yn pwysleisio sut mae’r arddangosfa yn gyfle i ddangos ochr wahanol cymunedau De Cymru. 

“Mae’n gyfle i bobl weld cymeriad a chynnwrf y bobl ifanc sydd yn byw yng nghymunedau'r Cymoedd. Mae’n gyfle i ddathlu creadigrwydd a dylanwad pobl ifanc mewn gwaith sydd yn llawn hwyl ac yn llawn lliw,” eglurodd Sean.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.